Pa un fyddwch chi'n yfed a pham?
Falle bo chi'n lico pob un - ond p'run yw'ch ffefrun?
Ma cymysgu'n hwyl fyd - Chinese, Snake-bite/Disel Coch, Black-Velvet dyn tlawd ayb.
Gallwch chi son am alcopops neu win neu wirodydd os chi am ond am wn i gall edefyn arall ga'l i wneud ermwy rhynna - stwff ar tap/pwmp fi moyn gwbod am.
Yfa i'r pedwar yn ddigon hawdd, ond mae'n dibynnu ar amser y flwyddyn. Seidir oer ar ddwrnod braf o haf mmmmmmmm
Guinness ...unrhyw bryd mmmmmmmmmmmmm
Wy'n credu fod chware ambythdi gormod gyda Ginis yn ei sbwylo fe, ond eto ma Ginis oer yn ffein ar y diawl fyd.