gan Mihangel Macintosh » Gwe 12 Meh 2009 7:11 pm
MWSACA
Cynhwysion:
Cig oen wedi minsio, Obergene, tatws wedi coginio, nionyn mawr, garlleg, olew olewydd, halen, pupur, tin o tomatos, stock, 1/2 peint o lefrith, 1/4 block o fenyn, fflwr, caws di gratio, mwstard.
Sleisiwch yr Obergene a rhowch halen arnyn nhw a'i gadael am hanner awr. Yna ffriwch nhw yn yr olew nes bod y ddau ochr yn frown. rhowch i un ochr unwaith eu bod nhw wedi gwneud.
Nesa ffriwch y cig oen wedi minsio mewn olew, unwaith mae wedi brownio, lluchiwch i mewn y nionod a llwyth o arlleg.
Ffriwch am 10 munud.
Ychwanegwch 3 llwy mawr o fflwr, rhywfaith o stoc cig oen, pupur, halen a tin o tomatos.
Yn y cyfamser, gwnewch y saws gwyn - Rhowch menyn mewn sosban a ychwanegwch fflwr a coginiwch am funud nes bod ganddoch chi bast, yna yn trio yn barhaol gyda llwy bren, ychwanegwch y llefrith nes fod ganddoch chi saws trwchus, lluchiwch i mewn halen a pupur, mwstard a caws wedi gratio a tynnwch oddi ar y gwres.
Mewn dish sgwar, rhowch yr obergenes a tatws (wedi cogio a'i sleisio) mewn layer. Yna ychwanegwch layer o'r mins. Yna layer arall o obergenes a tatws yna rhowch saws gwyn dros y cwbwl a rhywfaint o gaws.
Waciwch yn y ffwrn am 20 munud ar marc nwy 5.
Serfiwch gyda salad a wso.