asuka a ddywedodd:mae ffrio aubergine yn waith boring rywsut, on'd yw e? ond moussaka neis - mmm!
Damn right. Diflas ar y diawl. Ma angen padall ffrio 2 fetr diameter i wneud nhw gyd mewn un go. Fatha un o'r rhai paella masif na ti'n gael mewn ffeiriau bwyd Ffrengig.
Ma'r ysgawan wedi eu pigo, ac yn mwydo yn yr hylif. Arogl bendigedig arnyn nhw.
Dyma'r rysait :
30 pen blodyn ysgawan
6 pheint o ddŵr (wedi'i hidlo neu o botal os yn bosib)
2 bwys (1Kilo) o siwgr gwyn (caster os oes gynnoch chi o)
sudd 2 oren a 2 lemon
toddi'r siwgr mewn dwr --> gadal iddo fo oeri --> rhoi'r sudd a'r blodau (wedi eu golchi) mewn --> gadal o dan gaead am 24 awr --> ffiltro'r tameidia a phryfaid bach allan trwy ddarn o muslin (neu kitchen roll mewn sieve os nad oes ganddoch chi muslin) --> ei ferwi lawr i ladd unrhyw bacteria a'i dwchu i'r trwch/melsydra da chi isio fo.
Potelu ac yfad gyda dwr, fatha sgwosh efo lot o rew a sleis o lemon ne leim.
Ma rhai'n dweud i ddefnyddio sinsir ynddo fo ond drion ni hynna llynadd ac oedd o'n blasu fatha ffisig. Pach.
Maes-eio ers 2002, yo.