Carbonarra cawslyd!
Angen:
Caws medium i mature wedi gratio - llond llaw.
Cwpanaid fawr o lefrith
Wejan o fenyn
Llwyaid mawr o flawd.
Pasta - digon i un- unrhyw siap ond yn argymell y rhai bach
Ham di chopio i fyny
Madarch
Mwstard.
I gychwyn, cynhesu sosban ar dymhered RILI isel - rhoi y menyn ynddo a gadael iddo doddi. (cofio gwres isel - dim llosgi sosban!).
Yna, adio'r blawd ato a'i cymysgu i neud stwff fatha clai melyn. Os mae'n rhy powderi mae angen mwy o fenyn, rhy ddyfrllyd mae angen mwy o flawd.
Fflich i'r llefrith i mewn a codi'r tymhered ychydig. Wisgio fo'i gyd nes bod dim lwmpiau. Tra fod hyn yn digwydd dyled berwi y pasta.
Pan fo'r pasta bron yn barod - codi tymheredd yn stwf llefrithlyd nes ei fod yn berwi - yna gostwng y tymheredd. Ddyle'r gymysgedd fod yn eitha trwchus wedyn. Tra fod hyn yn mynd ymlaen dyled ffrio y madarch.
Fflich i'r mwstard (too taste, tua hanner llwy de), caws, ham, madarch a pasta (yn y drefn yna) i mewn a cymysgu am funud.
Wedyn bwyta fo. Mmmmmmmm. Hefyd yn bryd rhad iawn i'w wneud.
I'w wneud i fwy o bobl, jyst gwnewch mwy o stwff. Dwim yn ffysi iawn am fesuriadau - practice makes perfect fel petai.