Reit te'r jawled, chi'she gwledd?
4-8 selsig blasus tew (dibynnu os chi'n rhannu fe da ryw ffati neu beidio)
Spring onions (ne winwnsyn arferol, sdim lot o ots)
Tomatos (Chopped o din ne chopwch nhw eich hunen ne rhai bach 'cherry' ne be bynag - I'm easy)
Powdwr garlleg (ne garlleg normal os ych chi'n ffansi)
Pupur (du - dim o'r shit gwyn na)
Halen
Olew olewydd
Tatws (a digon ohonyn nhw)
Puprynnau gwyrdd/melyn/coch
Chopwch y tatws, yn weddol fach i arbed amser a berwch y diawled am sbelen (nes bo chi di beni da popeth arall, ife?).
Sticwch eich selsigs yn y foreman am sbelen fach 'fyd.
Chopwch eich winwns a'ch puprynnau (a'ch tomatos)
Hwpwch eich tato ar drê pobi gyda'r winwns/puprynnau (duw, madarch ods hoffech chi) a chyda pheth garlleg, halen a phupur du (a unrhyw sbeisys arall sydd i'w cael - go on, bydd e'n wledd!) ac arllwyswch y tomatos wedi'u chopio dros y job lot (+ wedyn mwy o halen a phupur a garlleg a sbeis i neud e'n neis). Rhowch eich selsigs mawr tew ar ben y diawl a sticwch e'n y ffwrn (210C) am 25 munud (checwch e cyn 'ny achos dwi'n dyfalu...)
ma fe'r wledd gwirioneddol!