Tudalen 1 o 11

Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 3:32 pm
gan Mihangel Macintosh
Postiwch a rhannwch eich eich hoff rysaits fan hyn...

Dwi am goginio bîff strogonoff i swper heno. Mmmm!

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 3:43 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Rhywbeth syml heno - pasta a pesto gyda thiwna a chaws, siwr o fod. Syml, ond blasus, iym, iym. Dim digon o fwyd gyda fi yn y ty ar hyn o bryd!

Pryd 'wy wedi bod yn coginio tipyn ohono'n ddiweddar yw selsig a la Gwahanglwyf.

Torrwch un winwnsyn a'i ffrio am ychydig funudau. Yna ffriwch gig selsig gyda fe am rhai munudau'n ychwanegol. Ychwanegwch din o domatos wedi chopo (ac os y'ch chi moyn, rhowch hanneri tomato o dan y gril gydag olew olwydden, halen a phupur drostynt, eu torri i fyny a'u rhoi yn y saws). Ar ben hynny, ychwanegwch wydryn o win coch, halen, pupur a pherlysiau. Gadewch e i ffrwtian am tua 30 munud nes bod yr hylif dros ben wedi mynd, ac yn y cyfamser, berwch basta.

Ffycin lysh!

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 4:05 pm
gan Gimpster
fi'n cal brechdan bacwn a bara lawr.....mmmmmmm , edrych mlaen,

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 4:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Os da ti rysait am fara lawr 'de Gimpstar?

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 4:15 pm
gan Gimpster
prynnu fe yn y farchnad tu ol i Queen st arcade yng nghaerdydd, dim y fara lawr gore yn yn byd, ond well na'r styff o'r tins, ond sdim byd well na fara lawr o Penclawdd, ond ma rhaid i tal cal e o fewn dau diwrnod neu mae'n mynd off

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 4:24 pm
gan Cardi Bach
Caserol Sosej eto!!!

Ffrio sosej cig mochyn a chennyn gyda winwsnyn mowr mewn olew olewydd.

Torri tatws newy yn fach a'u twlu mewn i bot caserol. Ychwanegu myshrwms ffresh, pupur coch/melyn/gwyrdd, shibwns, cina-bens, a thomatos i'r tatws.

Ychwanegu halen a phupur at y cwbwl, gyda Basil a Oregano.

Tin nau ddau o 'chopped tomatos' ermwyn ca'l saws a fwy o domatos a wedyn y sosej a'r winwns at y cwbwl. Cymysgu fe i gyd a wedyn rhoi'r cwbwl mewn i ffwrn wedi ei wresogi (nwy 4) am 3/4awr i awr.

Parsli ffresh dros y cwbwl ar ol tynnu e mas a bara ffresh a mennyn llangadog.

m mmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmm :D

(ishe fe nawr).

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 4:31 pm
gan LoopyLooLoo
Pirogi i fi, Mihangel-es i'n coginio trwy'r dydd, ffyc! Dwi'n paratoi batch mega-size-should last 'til Christmas, :lol: Yum yum yummingtons

Yn anffodus fedra i ddim yn rhannu'r resipi efo chdi-top secret, innit!

<a href=http://www.pierogi.com/pierogi.cfm>Pirogi-beth?!</a>

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 5:05 pm
gan cadiwen
Sai'n cal ffuck all heno, achos ma rhai o griw maes-e wedi bod yn dylanwad ddrwg arnai dros yr wythnose dwethaf, a fi 'di pisho gyd o cash fi ar cwrw - BOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!

dim even digon am dorth o fara

:x :x Ti'n galli sybo fi cash Mihahangel Mac?

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 6:48 pm
gan E
cadiwen a ddywedodd:Sai'n cal ffuck all heno, achos ma rhai o griw maes-e wedi bod yn dylanwad ddrwg arnai dros yr wythnose dwethaf, a fi 'di pisho gyd o cash fi ar cwrw - BOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!!!

dim even digon am dorth o fara

:x :x Ti'n galli sybo fi cash Mihahangel Mac?


Beth am ddechra Cadiwen Aid

Lle mae'r bag chwain Geldof 'na pam ti angen o.

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 8:14 pm
gan Leusa
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Os da ti rysait am fara lawr 'de Gimpstar?

be di bara lawr?