gan caws_llyffant » Mer 15 Chw 2006 4:52 pm
Cacamwri , i ddechrau , swn i'n rhoi tua hanner paced (neu 250 g) o bys wedi sychu i socio mewn dwr ( am dair awr efallai )
Wedyn , swn i'n coginio ham hock mewn dwr , efo moron , deilan bei , dipyn o fersli , a dipyn o deim , tan fydd y cig yn dwad i ffrwrdd o'r asgwrn mewn edafedd.
A wedyn , mewn sosban arall , swn i'n ffrio dipyn o garlic a nionod . Cyn i'r nionod lliwio , swn i'n rhoi'r dwr a oedd wedi coginio'r ham hock i fewn i'r sosban ( heb y moron , a heb y herbs ) a wedyn y pys ( heb y dwr socio , a heb halan )
Pan fydd y pys bron iawn yn feddal , amser adio'r cig y ham hock , efo glasiad o win ( gwyn ). A coginio eto tan fydd y pys yn mynd yn 'slopi'. Os di o ddim yn ddigon slopi , mwy o ddwr . Halan a pupur , a dolpyn mawr o hufen .
A dipyn o feicon wedi ffrio mewn darnau bach ar ben hwna , cyn serfio . Dipyn o fersli ffres hefyd , i edrych yn ddel .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "