Casserole ffa cymysg gyda dwmplenni
Ar gyfer y casserole:
olew
2 winwnsyn wedi torri'n fân
500g+ o ffa tin (unrhyw gyfuniad 'ych chi'n ffansi...
brynes i o'r swyddfa bost a chael cymysgedd weddol boring o butter beans, cidne bêms, a chick peas, ond odd e dal yn neish...)
2 din o domatos wedi wedi'u torri
Llond llaw o berlysiau ffres o'ch dewis (neu 3 lwyed de o berlysiau wedi sychu - saets a teim yn gweithio'n dda.)
Hanner cwpan o ddwr neu stoc llysie
Halen fel 'ych chi'n hoffi
Ar gyfer y dwmplenni:
100g o flawd codi
50g o suet llysie (ond ddefnyddis i lard, 'nath weithio'n iawn...)
Llwyed o berlysiau cymysg
Chwarter cwpan o ddwr
Dull:
Twymwch dua 2 lwy fwrdd o olew mewn pan ar wres cymhedrol yna ffriwch y winwns am gwpwl o funudau. Ychwanegwch y ffa (heb yr hylif, da chi) a trowch y cwbwl tan fod y ffa wedi cael gorchudd denau o olew.
Ychwanegwch y tomato, y perlysiau, a'r halen. Trwoch y gymysgedd, rhowch gaead ar y pan, yna gadewch iddo ffrwtian ar wres cymhedrol am 20 - 30 munud...
Ar gyfer y dwmplenni - cymysgwch y suet â'r blawd mewn powlen (tan fod y cyfan fel briwsion bara.) Ychwanegwch y perlysiau. Ychwanegwch y dwr yn ara' bach, gan gymysgu tan fod gyda chi does dechau. Roliwch tua 10 pelen bach o'r toes, yna codwch gaead y casserole a plopiwch y dwmplenni mewn. Bydd rhain yn cymryd tua 25 munud i goginio'n 'fluffy' neis.
Gweinwch mewn powlen gyda bara crawiog.
Hawdd, tsiep, a blasus