Pasta gyda Saws Bacwn a Chilli
Ma hwn yn neud digon i 2 berson:
Cynhwysion:
Olew Olewydd
1 Winwnsyn
1 Cilli (neu llwyed o jar o 'lazy chilli' - neu faint sy'n siwtio tast chi)
4-6 darn o facwn trwchys (smokey neu ddim, sdim rili ots)
Pepper Gwyrdd
Tin mawr o tomotoes*
Tomato Puree
Siwgr
Halen a pupur
1. Torrwch y winwnsyn yn darnau fan, y pepper mewn i sgwariau bach, y chilli mewn i darnau bach iawn a torrwch y bacwn lan hefyd.
2. Ffriwch y winwnsyn da'r pepper gwyrdd yn yr olew tan bo nhw'n feddal - wedyn ychwanegwch y chilli a trowch am ryw funed.
2. Ychwanegwch y bacwn a'i ffrio tan bod e di coginio.
3. Yna, rhowch y tomatoes, llwyed mawr o puree, llwy de o siwgr a halen a pupur mewn. Cymysgwch a gadael iddo simmero.
4. Tra bod y saws yn coginio - rhowch y pasta mlaen.
5. Bydd y saws yn barod yr un pryd a'r pasta.
*os chi moyn y saws fod bach mwy 'runny' rhowch tin bach o tomatoes mewn hefyd.
Mwynhewch