Be sydd i swper?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 05 Tach 2004 12:03 pm

Heb os na oni bai na dim, Stwnsh Rwdan di'r bwyd gorau yn y byd. Hoffwn rannu ei mawredd gyda chi:

Cynhwysion hanfodol: Rwdan, tatws (bydd un rwdan a bag normal o datws yn ddigon i rhyw bump, ella chwech, o bobl)

Rysait 1: Bacwn ac wy
Rysait 2: Grefi nionyn efo selsig

Hanfodol

Berwi'r tatws a'r rwdan efo'u gilydd ('chydig o halen yn neis efo fo), a'u stwnshio pan manwn barod. Pan yn stwnshio, defnyddiwch menyn a llefrith hefyd i'w gwneud yn feddalach ac i ychwanegu blas.

Rysait 1

Ffrio bacwn ac wy a'u byta efo'r stwnsh. Sos coch a baramenyn yn clas efo fo.

Rysait 2

Ffriwch nionyn gyfan (wok yn eidial), ac ychwanegwch ddau giwb stoc ato efo ychydig o ddwr poeth o'r tecell.
Fyddach chi angen pot bach arnach chi, a llenwch rhyw draean efo blawd, a rhoi twtsh o gravy browning i mewn. Trowch chi efo dwr oer nes ei bod yn frown a'r blawd yn toddi mewn.
Ychwanegwch mwy o ddwr poeth o'r tecell efo'r nionod ac ychwanegwch y mics grefi browning. Daliwch i'w throi o hyd.

Tra'n gwneud hyn, ffriwch y selsig. Pan fo'r selsig a'r grefi'n barod, rhowch y selsig yn y grefi a'i rhoi dros y stwnsh rwdan.

Hawdd i'w gwneud ac yn well na Pot Nwdl unrhyw bryd!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Blewgast » Maw 09 Tach 2004 1:34 pm

ebrill - Pasta gyda Saws Bacwn a Chilli


Wel sai di trio hwn da t ebrill....... :rolio: ond odd y cawl na wnes di yn fendigedig!! :winc: :winc: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 09 Tach 2004 2:11 pm

Mae hon yn ddarn o droeth. (digon i ddau barus/3)
Bag o pys 'di rhewi
gymaint o garlleg elli di ddiodda
llwyth o bupur du
cwpan o olew olewydd
parmesan (lot)
bacwn home cured.
Penne.
Pys, bacwn a garllag a pupur du a olew i gyd ewn hefo'i gilydd, a'i ffrio mewn llafar badall efydd, neu ffreipan efo gwaelod trwm yn ara deg am dros 3/4 awr tan bod y cyfan yn llosgi.
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 09 Tach 2004 2:40 pm

Mynd i goginio porc chops gyda lemwn heno - ryseit ges i o'r River Cafe Cook Book. Ddim yn siwr shwt fydd e 'to, ond fe ro' i'r ryseit i chi ta beth:

4 pork chop
1 lemwn

Rhowch y pork chops mewn padell ffrio, tua hanner munud ar y ddwy ochr. Torrwch y lemwn yn hanner, a'i roi mewn tin rhostio ynghyd â'r pork chops. Coginiwch y cyfan yn y ffwrn (marc nwy chwech) am ddeg munud, yna cymryd y tin allan. Gwasgwch y lemwn dros y pork chops, cyn dychwelyd y cyfan i'r ffwrn am ddeg munud arall.

Et voila! Edrych 'mlaen at y blasu. Bydda' i'n gweini hynna gyda thato rhost a ffa.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Chwadan » Maw 09 Tach 2004 2:51 pm

Mm, ma na resipis da 'ma bobl!

I ginio heddiw mi nes i ad-libio:
Tysan drwy'i chroen (5 munud yn y meicro wedyn hanner awr yn y ffwrn)
efo
hanner tun o diwna, llwyad go dda o besto coch, dipyn o domatos syn-draid a a phupur du wedi eu cymysgu a'u cynhesu mewn sosban, efo parmesan ar y top.

Oedd o'n reit neis 'fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 10 Tach 2004 5:15 pm

Y rystait gore: mynd draw i'r dre i gal kebab! Syml!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Mali » Maw 16 Tach 2004 1:40 am

Chwadan a ddywedodd:Mm, ma na resipis da 'ma bobl!

I ginio heddiw mi nes i ad-libio:
Tysan drwy'i chroen (5 munud yn y meicro wedyn hanner awr yn y ffwrn)
efo
hanner tun o diwna, llwyad go dda o besto coch, dipyn o domatos syn-draid a a phupur du wedi eu cymysgu a'u cynhesu mewn sosban, efo parmesan ar y top.

Oedd o'n reit neis 'fyd.


Mae'r daten popty yn gweithio'n dda efo baked beans hefyd , efo ychydig o bowdwr cyri wedi ei ychwanegu. Pryd bach syml ond blasus iawn :)
Mali
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Cymro13 » Maw 16 Tach 2004 4:41 pm

Pasta, Saws Caws a Bacwn

1. Cymysgwch fennyn wedi toddi gyda blawd(dylse un llwy fwrdd o bob un fod yn ddigon)
2. Ychwanegwch tua chwarter i hanner peint o laeth a choginiwch ar yr Hob(beth yw hwnna'n Gymraeg) a chadwch ei gymysgu tan fod y mennyn a'r blawd wedi toddi fewn ac ei fod yn ddigon poeth i doddi caws
3. Tynnwch y cyfan i ffwrdd o'r hob ac ychwanegwch gaws (ychydig ar y tro a dibynnu faint chi moen)

Wedyn torri bacwn wedi ei goginio yn ddarnau ac ychwanegu pasta
Hawdd
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Llefenni » Maw 16 Tach 2004 5:39 pm

Afocado a Prôns

1 Afocado
1 Pecyn o Prôns mawr (pwybynnag fath chi'n licio)
Vinaigrette finegr balsamaidd
Pecyn o'ch hoff salad (Ranch salad o Asda yn neis, efo shreds moryn, corjet, winiwns a cabej - ond bebynnag sy'n eich plesio rili)

Tynnwch y garreg o'r afocado, tynnwch y ffrwyth efo llwy dê (ond yn cadw'r croen mewn un darn os oes cwmni efo chi), mashwch y ffrwyth, coginiwch y prôns efo tamed o bupr ffresh droso i sawru a cymysgwch mewn bowlen gyda tamed o'r vinaigrette a'r afocado. Rhowch y gymysgedd nôl fewn i'r croen i syrfio efo'r salad, rw wîn gwyn o'ch dewis a chanhwyllau secsi!

Dyma sydd i ginio heno yn Chez Llefenni! (Ond heb y canhwyllau a'r secs :crio: :drwg: )
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan lleufer » Iau 18 Tach 2004 11:21 pm

Cyw iar lemwn, dill a tharagon (brau a llaith) - ANFARWOL

Byddwch angen
Cyw iar ffres
4 lemwn
3 nionyn coch
menyn Cymreig
1 bwlb garlleg
dill ffres
tarragon ffres
halen mor
pupur du bras
chydyg o ddwr

*Golchi cyw iar cyfan yn dda a thorri'r cwgnau oddiar y coesau.
*Torri 4 lemwn yn wythfedi
*Torri 3 nionyn coch yn wythfedi
*Stwffio'r cyw a hyny fedrwch o chwarteri lemwn a nionyn coch (mwyn o lemwn na nionyn)
*Rhoi nobyn golew o fenyn yna halen, pupur, peth o'r taragon a'r dill yn y bol hefyd.
*Gyda'ch llaw yn araf gwahanu croen y frest oddiar y cnawd.
stwffio digonedd o fenyn taragon a dill rhwng y frest a'r croen.
*Rhoi'r cyw mewn disgl/tun a gosod gweddill y lemwn a'r nionyn o'i gwmpas gyda clofs garlleg heb eu plicio.
*Rhoi nobiau go lew o fenyn yma ag acw ym mhob twll a chornel o'r cyw yn enwedig ar ben y frest.
*Ysgwyd pupur a halen ar ben y cyfan.
*Rhoi 1cm o ddwr yng ngwaelod y ddisgl/tun.
*Gorchuddio'r cyfan mewn parsel ffoil a'i roi yn y popty i goginio yn araf ar wres is am rhyw 3 awr.
*Does dim ond angen agor y ffoil tua dwy waith i frasteru'r cyw gyda'r sudd o'i chwmpas - ond mae'n pwysig ei chau yn ol yn dyn.
*Crasu'r croen tan y gril cyn ei serfio.

Bydd y cig yn blasu'n fendigedig a bydd yn frau a llaith.
Serfich a swffle caws, tatws rhost cartref a cenin mewn creme fraiche. :winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron