Be sydd i swper?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jeni Wine » Iau 20 Gor 2006 3:47 pm

Dyma be gafodd Mihangel, Mam Jeni a finna i swper neithiwr:

SBIGOGLESAN MALI
Llnau pwys o sbigoglys ffresh
Ffrio nionyn mawr coch efo 6 clof o arlleg
Rhoi'r sbigoglys ar ei ben ac aros nes eu bod yn fach fach
Malu'r sbigoglys efo llwy bren

Torri 5 wy i mewn i bowlen a'u cymysgu efo hanner cosyn o barmesan man a halen a phupur

Rhoi'r gymysgedd wyog ar ben y sbigoglys a'i roi mewn llestr wedi ei iro
Sbrinclo hanner cosyn arall o barmesan man ar ben y campwaith
Ei roi yn y popty am 20 munud

Gweinwyd gyda salad berw-dwr a mae-on-neis a sos coch a siytni nionyn wedi'i garameleiddio

Gesh i ei weddill o'n oer i ginio efo salad ffa ffrengig a mwstard dijon

iymbym
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 20 Gor 2006 4:27 pm

Ges i gine-bêns bloody lovely neithiwr. Ffein ar jawl.

sian a ddywedodd:"Ie," medde fe "ond erbyn i ti dynnu'r plisg doedd dim llawer o ffa ar ôl."


:lol: Ffacinel, ma hon yn swno fel joc off Noson Lawen :lol:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Jeni Wine » Llun 06 Tach 2006 12:11 pm

Wsos dwytha mi nesh i bryd bendigedig a meddwl o'n i y baswn i'n rhannu'r peth efo chi.

Brithyll yr Enfys efo Asbaragws a Stwnsh Wasabi

2 ffiled o Frithyll yr Enfys (dwi'n iawn i ddeud mai dyna di Raibow Trout yn Gymraeg?)
Bwnshiad o asbaragws
Tatws Maris Piper
Wasabi
Coriander ffresh
Joch o lefrith

Berwi'r tatws mewn dwr berw a halen.

Ar ol 5 munud, rhoi'r ffiledau o frithyll mewn parseli papur arian efo sudd lemwn ffresh, coriander ffresh a phupur du. Eu rhoi mewn popty poeth.

Ar ol 5 munud, stemio'r asbaragws.

Ar ol 5 munud arall, diffodd y gwres ar yr asbaragws a'r pysgod a stwnsho'r tatws efo joch o lefrith a sgwyrtiad o bast wasabi.

Tynnu'r pysgod o'r papur arian a'u rhoi ar blat efo'r tatws stwnsh a'r asbaragws.


Nefoedd. :P
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Dili Minllyn » Sul 26 Tach 2006 2:16 pm

Pwdin selsig (toad in the hole), sef amrywiaeth ar Bwdin Efrog traddodiadol (pwdin cytew) gyda selsig neu ddarnau o gig selsig wedi'u claddu yn y cytew. Mae'n llawer mwy blasus o ydych chi'n cymysgu'r cig selsig efo afal sur wedi'i grafu cyn ei goginio. (Mi ddefnyddiais i Sosmix llysieuol yn lle cig, ond mae'r effaith yr un peth). Cofiwch goginio'r cig/cig ffug am rhyw chwarter awr yn y ffwrn cyn rhoi'r cytew drostyn nhw, neu fyddan nhw byth yn coginio drwodd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dwlwen » Iau 11 Ion 2007 1:03 pm

Casserole ffa cymysg gyda dwmplenni

Ar gyfer y casserole:
olew
2 winwnsyn wedi torri'n fân
500g+ o ffa tin (unrhyw gyfuniad 'ych chi'n ffansi... brynes i o'r swyddfa bost a chael cymysgedd weddol boring o butter beans, cidne bêms, a chick peas, ond odd e dal yn neish...)
2 din o domatos wedi wedi'u torri
Llond llaw o berlysiau ffres o'ch dewis (neu 3 lwyed de o berlysiau wedi sychu - saets a teim yn gweithio'n dda.)
Hanner cwpan o ddwr neu stoc llysie
Halen fel 'ych chi'n hoffi

Ar gyfer y dwmplenni:
100g o flawd codi
50g o suet llysie (ond ddefnyddis i lard, 'nath weithio'n iawn...)
Llwyed o berlysiau cymysg
Chwarter cwpan o ddwr

Dull:
Twymwch dua 2 lwy fwrdd o olew mewn pan ar wres cymhedrol yna ffriwch y winwns am gwpwl o funudau. Ychwanegwch y ffa (heb yr hylif, da chi) a trowch y cwbwl tan fod y ffa wedi cael gorchudd denau o olew.
Ychwanegwch y tomato, y perlysiau, a'r halen. Trwoch y gymysgedd, rhowch gaead ar y pan, yna gadewch iddo ffrwtian ar wres cymhedrol am 20 - 30 munud...

Ar gyfer y dwmplenni - cymysgwch y suet â'r blawd mewn powlen (tan fod y cyfan fel briwsion bara.) Ychwanegwch y perlysiau. Ychwanegwch y dwr yn ara' bach, gan gymysgu tan fod gyda chi does dechau. Roliwch tua 10 pelen bach o'r toes, yna codwch gaead y casserole a plopiwch y dwmplenni mewn. Bydd rhain yn cymryd tua 25 munud i goginio'n 'fluffy' neis.

Gweinwch mewn powlen gyda bara crawiog.

Hawdd, tsiep, a blasus :D
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Mephistopheles » Iau 11 Ion 2007 3:18 pm

Tiwna, Pasta, Nionod a Quavers

Digon o pasta i llenwi plat
Tin Tiwna
Hanner Nionyn Coch
Bag o Quavers

Coginio'r pasta nes bod o jesd n barod, cymysgu gyda'r tin tiwna a mayo, ychwannegu'r nionyn (wedi ei dorri'n fach). Sgrynsho'r pacad quavers a'i sbrinclo ar ben y cwbl lot a ei rhoi yn y popty am 10-15 munud.

Man neis, wir yr, neshi ddarganfod hyn o blaen pan neshi drio neud pasta a tiwna a mayo a neshim coginio'r pasta am digon hir, felly neshi ychwanegu hanner nionyn coch a pacad quavers ar ei ben o a'i sdicio yn y popty am tua 15 munud. Nais
I Like escalators, they cannot break, they can only become stairs
Rhithffurf defnyddiwr
Mephistopheles
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 291
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 11:16 am
Lleoliad: Uffern

Postiogan Mihangel Macintosh » Sul 14 Hyd 2007 10:14 pm

Newydd neud Cyri cig oen gyda Basmalti. Mmmmmmm.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 17 Hyd 2007 11:44 am

Cyrri arall - nes i hwn neithiwr - Tikka masala cig oen. Nes i ddefnyddio cyw iar serch hynnu gan fod cig oen yn ddrud ac mi oedd e ar gyfer 10.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Jeni Wine » Mer 17 Hyd 2007 12:47 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Cyrri arall - nes i hwn neithiwr - Tikka masala cig oen. Nes i ddefnyddio cyw iar serch hynnu gan fod cig oen yn ddrud ac mi oedd e ar gyfer 10.


:P iymbym ac oooo mi oedd o'n fendihyfryd. Cyrri lliw melyn neon efo cic mul ynddo fo.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Be sydd i swper?

Postiogan Gwenci Ddrwg » Llun 11 Chw 2008 6:48 pm

Heddiw? Rhyw crap gan wasanaeth-bwyd canolig fy mhrifysgol. Iam iam, cig cath grwydr! Fy hoff pryd yn y fan hon.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron