5 miles of piles a ddywedodd:Oes yna rhywun yn gwybod sut i neud pei cyw iar cartref, gyda cenin neu madarch ella?
Be am hwn?
Gan fod y tywydd yn well, dyma resait da ar gyfer haf. Ma fe'n iachus ac yn llenwi chi! Digon ar gyfer 2-3.
Salad Sesar Cyw Iar
=============
Cynhwysion:
2 Letis Romanie
2 fillet Cyw Iar
Blocyn o Barmesan
Dressing Cesar
2 dafell o fara gwyn
olew olewydd/llysiau
1. Torwch y cyw iar yn strips tenne a'i rhoi dan y grill ar wres uchel nes bod nhw'n dechre brownio.
2. Torwch tafell neu ddau o fara gwyn yn sgwariau bach a ffriwch mewn olew ar rhes isel - dyna'ch croutons chi.
3. Yn y cyfamser cymysgwch y letis romanie a'r croutons gyda'r dressing mewn powlen.
4. Nesa, cymrwch y barmesan a'i shafio ar y grater. h.y. gwneud strips.
5. Rhowch y salad ar blatiau, ychwanegwch y cyw iar ac yna'r parmesan
Mwynhewch.