Be sydd i swper?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Al Jeek » Mer 22 Hyd 2003 9:29 pm

Carbonarra cawslyd!

Angen:
Caws medium i mature wedi gratio - llond llaw.
Cwpanaid fawr o lefrith
Wejan o fenyn
Llwyaid mawr o flawd.
Pasta - digon i un- unrhyw siap ond yn argymell y rhai bach
Ham di chopio i fyny
Madarch
Mwstard.

I gychwyn, cynhesu sosban ar dymhered RILI isel - rhoi y menyn ynddo a gadael iddo doddi. (cofio gwres isel - dim llosgi sosban!).
Yna, adio'r blawd ato a'i cymysgu i neud stwff fatha clai melyn. Os mae'n rhy powderi mae angen mwy o fenyn, rhy ddyfrllyd mae angen mwy o flawd.
Fflich i'r llefrith i mewn a codi'r tymhered ychydig. Wisgio fo'i gyd nes bod dim lwmpiau. Tra fod hyn yn digwydd dyled berwi y pasta.
Pan fo'r pasta bron yn barod - codi tymheredd yn stwf llefrithlyd nes ei fod yn berwi - yna gostwng y tymheredd. Ddyle'r gymysgedd fod yn eitha trwchus wedyn. Tra fod hyn yn mynd ymlaen dyled ffrio y madarch.
Fflich i'r mwstard (too taste, tua hanner llwy de), caws, ham, madarch a pasta (yn y drefn yna) i mewn a cymysgu am funud.

Wedyn bwyta fo. Mmmmmmmm. :D Hefyd yn bryd rhad iawn i'w wneud.
I'w wneud i fwy o bobl, jyst gwnewch mwy o stwff. Dwim yn ffysi iawn am fesuriadau - practice makes perfect fel petai. :winc:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gruff Goch » Mer 22 Hyd 2003 11:05 pm

Leusa a ddywedodd:be di bara lawr?


Gwymon. Mmmmm.... Bara lawr a cocs...
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Macsen » Mer 22 Hyd 2003 11:56 pm

Pot nwdl. :wps:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Barbarella » Iau 23 Hyd 2003 7:58 am

Gruff Goch a ddywedodd:Gwymon. Mmmmm.... Bara lawr a cocs...

Ddim yn hoffi gwymon, ond eitha licio cocs :crechwen: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Leusa » Iau 23 Hyd 2003 8:55 am

Gwymon????
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan cadiwen » Iau 23 Hyd 2003 9:26 am

No shit Babs!
Rhithffurf defnyddiwr
cadiwen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 161
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2003 2:15 am
Lleoliad: Ar crotch Ian Cottrell

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 23 Hyd 2003 9:34 am

Gwymon yn wir, Leus.

Heno dw i am wneud pasta i mi fy hun efo Dolmio. Delia Smith, watch out!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 28 Hyd 2003 11:29 am

Dwi am goginio cyri cyw iar heno - oedd gen i rysait o'r blaen, ond dwi wedi ei golli a allai ddim ei gofio. :wps:

Os da rhywun rysait ma nhw ishe rhannu?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Leusa » Maw 28 Hyd 2003 10:11 pm

Dwi'n neud bwyd Mexican yn reit amal, dachi angen y tortillas na o'r siop, a cyw iar wedi'w dorri yn fan [neu brest cyw iar a gnewch o'ch hun].
1)Ffriwch y cyw iar yn dda, ac os dachisho blas neis, rhowch chinease spices ne unrhyw sbeis arno fo.
2)yn y cyfamser, mewn sosban, torwchun nionyn a pupur [unrhyw liw] yn fan, a'i ffrio mewn olew.
3) i mewn i'r sosban, adiwch dun o gorn bach melyn.
4) adiwch pasata a piwri, i gal o'n goch neis
5) i ychwanegu lot o flas, rhowch chydig o fwstard, siwgr, halen, sbeisys cymysg, a unrhywbeth sy'n ogle'n neis.
6) Rhowch mayonaise ar y torilla, wedyn y cig, wedyn y stwff coch, a'i futa.
Ar fy marw, ma'r peth neisia yn y byd.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Jeni Wine » Mer 29 Hyd 2003 12:00 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Dwi am goginio cyri cyw iar heno - oedd gen i rysait o'r blaen, ond dwi wedi ei golli a allai ddim ei gofio. :wps:

Os da rhywun rysait ma nhw ishe rhannu?


pwy glywodd am rhywun yn gneud cyri cyw iâr heb gyripawda o blaen? asiffeta :rolio:
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron