Heb os na oni bai na dim, Stwnsh Rwdan di'r bwyd gorau yn y byd. Hoffwn rannu ei mawredd gyda chi:
Cynhwysion hanfodol: Rwdan, tatws (bydd un rwdan a bag normal o datws yn ddigon i rhyw bump, ella chwech, o bobl)
Rysait 1: Bacwn ac wy
Rysait 2: Grefi nionyn efo selsig
Hanfodol
Berwi'r tatws a'r rwdan efo'u gilydd ('chydig o halen yn neis efo fo), a'u stwnshio pan manwn barod. Pan yn stwnshio, defnyddiwch menyn a llefrith hefyd i'w gwneud yn feddalach ac i ychwanegu blas.
Rysait 1
Ffrio bacwn ac wy a'u byta efo'r stwnsh. Sos coch a baramenyn yn clas efo fo.
Rysait 2
Ffriwch nionyn gyfan (wok yn eidial), ac ychwanegwch ddau giwb stoc ato efo ychydig o ddwr poeth o'r tecell.
Fyddach chi angen pot bach arnach chi, a llenwch rhyw draean efo blawd, a rhoi twtsh o gravy browning i mewn. Trowch chi efo dwr oer nes ei bod yn frown a'r blawd yn toddi mewn.
Ychwanegwch mwy o ddwr poeth o'r tecell efo'r nionod ac ychwanegwch y mics grefi browning. Daliwch i'w throi o hyd.
Tra'n gwneud hyn, ffriwch y selsig. Pan fo'r selsig a'r grefi'n barod, rhowch y selsig yn y grefi a'i rhoi dros y stwnsh rwdan.
Hawdd i'w gwneud ac yn well na Pot Nwdl unrhyw bryd!