Tudalen 11 o 11

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Sad 04 Hyd 2008 7:25 am
gan Blewyn
shuwa - cig gafr wedi ei goginio dros nos wedi ei gladdu mewn pytew dros golsyns. Tendar iawn iawn, toddi yn y ceg. Ei futa efo reis a dhal..

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Sul 07 Rhag 2008 10:08 pm
gan asuka
miam-MIAM, mae habaneros yn wych. hoff iawn o "scotch bonnets" hefyd, sy'n debyg iawn i/fath arbennig o habaneros (sa' i'n siwr pa un). wedi'u henwi ar ôl lisa bonet, yn ôl pob sôn.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Sad 04 Ebr 2009 7:59 pm
gan Blewyn
reis a dhal. eto

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Gwe 12 Meh 2009 7:11 pm
gan Mihangel Macintosh
MWSACA

Cynhwysion:
Cig oen wedi minsio, Obergene, tatws wedi coginio, nionyn mawr, garlleg, olew olewydd, halen, pupur, tin o tomatos, stock, 1/2 peint o lefrith, 1/4 block o fenyn, fflwr, caws di gratio, mwstard.

Sleisiwch yr Obergene a rhowch halen arnyn nhw a'i gadael am hanner awr. Yna ffriwch nhw yn yr olew nes bod y ddau ochr yn frown. rhowch i un ochr unwaith eu bod nhw wedi gwneud.

Nesa ffriwch y cig oen wedi minsio mewn olew, unwaith mae wedi brownio, lluchiwch i mewn y nionod a llwyth o arlleg.
Ffriwch am 10 munud.

Ychwanegwch 3 llwy mawr o fflwr, rhywfaith o stoc cig oen, pupur, halen a tin o tomatos.

Yn y cyfamser, gwnewch y saws gwyn - Rhowch menyn mewn sosban a ychwanegwch fflwr a coginiwch am funud nes bod ganddoch chi bast, yna yn trio yn barhaol gyda llwy bren, ychwanegwch y llefrith nes fod ganddoch chi saws trwchus, lluchiwch i mewn halen a pupur, mwstard a caws wedi gratio a tynnwch oddi ar y gwres.

Mewn dish sgwar, rhowch yr obergenes a tatws (wedi cogio a'i sleisio) mewn layer. Yna ychwanegwch layer o'r mins. Yna layer arall o obergenes a tatws yna rhowch saws gwyn dros y cwbwl a rhywfaint o gaws.

Waciwch yn y ffwrn am 20 munud ar marc nwy 5.

Serfiwch gyda salad a wso.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Maw 10 Ebr 2012 9:10 am
gan Gwddig
Dw innau´n hoff iawn o basta, am fod yn hawdd, yn handi ac yn iach. Hynny yw, pa fath o lysiau bynnag sy yn eu tymor, a beth bynnag sydd ar ol yn y fridj, byddaf yn ei dorri i lawr a´i ffrio mewn padell neu sosban i fynd efo pasta. Mae´n rhywfath ar universal recipe. Er enghraifft: Dwedwn ni bod ddim ond wniwns, cennyn a moron i´w cael: Dim ond torri lan y llysiau, eu ffrio nhw ac olew olive neu olew iach arall ond heb ffrio´n ormodol sydd eisiau, gan ddechrau a´r wniwns a´r moron; ffrio´r gymysgedd yn siarp ond yn fyr gan ei throi yn wastad ac ychwanegu´r cennin wedyn ac ar ol rhyw 3 munud gosod ar fflam isaf fel y bod yn rhyw led-ferwi. Er mwyn cael amrwyaeth a rhagor o broteins mae´n syniad i roi medeirch i mewn hefyd. Nawr bydd angen diferyn o ddwr ond os oes llysiau sy´n cynnwys canran helaeth o ddwr fel tomatos yn y gymysgedd bydd yn tynnu digon o ddwr ei hunan. Ar ffin proses y lled-ferwi bydd yn amser i´r speis a pherlysiau. Yna ceir sawl modd: y modd Eidaleg yntau mediterranean a speises fel oregano, majoran, thyme neu ffordd y ddwyrain a cwrri a pupur cryf. Rhaid gofalu bod y llysiau ddim yn mynd yn rhy feddal. Ar ddiwedd mae modd i roi caws wedi´i gratio ar y cyfan neu ei gymysgu fe a rhyw gymaint o hufen. Bydd hynny yn mynd yn dda efo pob math o basta a hefyd gyda tatws - wedi´u ffrio neu drwy´r croen. Yn yr haf mae modd combeino er enghraifft wniwns, cwrgettes, pupur a tomato, hefyd efo madarch. Dyw cabaits ddim yn weddu i´r fath basta heblaw broccoli.