Tudalen 9 o 11

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 12:57 am
gan asuka
suppli llysieuol a salad i ni heno 'ma
gwnes i beli bach o risotto madarch neithiwr oedd ar ôl yn y ffrij, eu rholio nhw mewn briwsion bara a'u ffrio mewn menyn. 'sai wyau 'da fi byddwn i 'di dodi un i mewn 'fyd - ro'n nhw'n cwympo yn ddarnau ychydig yn y ffrimpan. ond ddim gormod.
mmm. rwy'n leicio risotto'r diwrnod cynt!

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 7:42 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
asuka a ddywedodd:suppli llysieuol a salad i ni heno 'ma
gwnes i beli bach o risotto madarch neithiwr oedd ar ôl yn y ffrij, eu rholio nhw mewn briwsion bara a'u ffrio mewn menyn. 'sai wyau 'da fi byddwn i 'di dodi un i mewn 'fyd - ro'n nhw'n cwympo yn ddarnau ychydig yn y ffrimpan. ond ddim gormod.
mmm. rwy'n leicio risotto'r diwrnod cynt!


Maen nhw'n gwerthu peli risotto fel bwyd cyflym yn yr Eidal. Peth da ar ôl diwrnod o yfed.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 12:42 pm
gan asuka
oes 'na unrhyw fath o grocét sy ddim yn lyfli? crocéts risotto, crocéts tatws stwnsh, rhai a saws gwyn yn eu canol, rhai ac ynddyn nhw ddarnau cudd o gaws sy'n toddi wrth ffrio...

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 1:24 pm
gan Rhodri Nwdls
Moussaka, neithiwr, am y tro cynta rioed. Rysait o'r Reader's Digest Cookery Year - grêt am y basics. Bach o ffaff tynnu'r dwr allan o'r aubergine a'u ffrio i gyd wedyn ond blas melfedaidd, ygafn hyfryd iddo. Gwd thing. Letys cyntaf o'r ardd 'leni efo fo a bara soda rhyg (rye) cartra ar yr ochr. Marflys.

Salad Rocet efo fo eto heno dwi'n meddwl. Mynd i nôl blodau sgwan heno - cordial ar ei ffordd. Ydi, ma'r ha' yn offisial.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 12:30 am
gan asuka
mae ffrio aubergine yn waith boring rywsut, on'd yw e? ond moussaka neis - mmm!

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 11:18 am
gan Rhodri Nwdls
asuka a ddywedodd:mae ffrio aubergine yn waith boring rywsut, on'd yw e? ond moussaka neis - mmm!

Damn right. Diflas ar y diawl. Ma angen padall ffrio 2 fetr diameter i wneud nhw gyd mewn un go. Fatha un o'r rhai paella masif na ti'n gael mewn ffeiriau bwyd Ffrengig.

Ma'r ysgawan wedi eu pigo, ac yn mwydo yn yr hylif. Arogl bendigedig arnyn nhw.

Dyma'r rysait :

30 pen blodyn ysgawan
6 pheint o ddŵr (wedi'i hidlo neu o botal os yn bosib)
2 bwys (1Kilo) o siwgr gwyn (caster os oes gynnoch chi o)
sudd 2 oren a 2 lemon

toddi'r siwgr mewn dwr --> gadal iddo fo oeri --> rhoi'r sudd a'r blodau (wedi eu golchi) mewn --> gadal o dan gaead am 24 awr --> ffiltro'r tameidia a phryfaid bach allan trwy ddarn o muslin (neu kitchen roll mewn sieve os nad oes ganddoch chi muslin) --> ei ferwi lawr i ladd unrhyw bacteria a'i dwchu i'r trwch/melsydra da chi isio fo.

Potelu ac yfad gyda dwr, fatha sgwosh efo lot o rew a sleis o lemon ne leim.

Ma rhai'n dweud i ddefnyddio sinsir ynddo fo ond drion ni hynna llynadd ac oedd o'n blasu fatha ffisig. Pach.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 1:45 pm
gan Manon
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
asuka a ddywedodd:mae ffrio aubergine yn waith boring rywsut, on'd yw e? ond moussaka neis - mmm!

Damn right. Diflas ar y diawl. Ma angen padall ffrio 2 fetr diameter i wneud nhw gyd mewn un go. Fatha un o'r rhai paella masif na ti'n gael mewn ffeiriau bwyd Ffrengig.


Ychi be', 'dwi byth yn ffrio'r aubergine gynta. 'Dwi'm yn licio fo'n slyji so 'dwi jysd yn torri fo'n sleisys, rhoi o mewn haeanau efo tomatos, nionod, madarch a phupur, ac yn tywallt saws tomato dros y cyfan (wedi ei gwcio am tua hanner awr ynghynt ar yr hob, efo ffagpys ynddo fo), a chaws ar y top, a rhoi tua awran i'r cyfan yn y ffwrn. Iyyyyym! Ma'r aubergine yn cadw tam bach o'i 'bite' wedyn.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Maw 17 Meh 2008 2:26 pm
gan asuka
Manon a ddywedodd:Ychi be', 'dwi byth yn ffrio'r aubergine gynta. 'Dwi'm yn licio fo'n slyji so 'dwi jysd yn torri fo'n sleisys, rhoi o mewn haeanau efo tomatos, nionod, madarch a phupur, ac yn tywallt saws tomato dros y cyfan (wedi ei gwcio am tua hanner awr ynghynt ar yr hob, efo ffagpys ynddo fo), a chaws ar y top, a rhoi tua awran i'r cyfan yn y ffwrn. Iyyyyym! Ma'r aubergine yn cadw tam bach o'i 'bite' wedyn.

mi dreia' i hyn'na, ond a gweud y gwir mae arna' i ofon "arbrofi" gydag aubergine fel rheol - gall fod mor ffein, a gall fod yn afiach 'fyd!

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2008 7:55 am
gan Rhodri Nwdls
Manon a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
asuka a ddywedodd:mae ffrio aubergine yn waith boring rywsut, on'd yw e? ond moussaka neis - mmm!

Damn right. Diflas ar y diawl. Ma angen padall ffrio 2 fetr diameter i wneud nhw gyd mewn un go. Fatha un o'r rhai paella masif na ti'n gael mewn ffeiriau bwyd Ffrengig.


Ychi be', 'dwi byth yn ffrio'r aubergine gynta. 'Dwi'm yn licio fo'n slyji so 'dwi jysd yn torri fo'n sleisys, rhoi o mewn haeanau efo tomatos, nionod, madarch a phupur, ac yn tywallt saws tomato dros y cyfan (wedi ei gwcio am tua hanner awr ynghynt ar yr hob, efo ffagpys ynddo fo), a chaws ar y top, a rhoi tua awran i'r cyfan yn y ffwrn. Iyyyyym! Ma'r aubergine yn cadw tam bach o'i 'bite' wedyn.

Mi dria'i o tro nesa, ond dwi yn lecio aubergine slwj rhaid cyfadda. Fatha byta slygs mawr blasus wedi sgwosho. Mmm. Slygs.

Re: Be sydd i swper?

PostioPostiwyd: Mer 18 Meh 2008 5:07 pm
gan asuka
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mmm. Slygs.

gweler uchod: "afiach"!