Tudalen 10 o 11
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Mer 25 Meh 2008 10:44 pm
gan asuka
bues i'n gwneud risotto madarch heno 'ma (unwaith 'to!). ond doedd dim gwin 'da ni yn y tŷ, felly rhoiais i gwrw i mewn yn ei le. madarch, wynwns, y caws a blas y cwrw - daeth y cyfan at ei gilydd yn dda iawn, a bydda' i'n siwr o'i wneud e 'to.
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Llun 30 Meh 2008 10:13 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Nes i ladd degau o anifeiliaid ar gyfer swper heno...
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Llun 30 Meh 2008 10:37 pm
gan Iesu Nicky Grist
Nes i ladd degau o anifeiliaid ar ôl swper heno...
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 12:21 pm
gan finch*
Dwi'n ffansi neud byrgyrs cartref heno ond yn chwilio am syniade gwreiddiol i ychwanegu at y mins. Y bwriad oedd defnyddio winwns, garlleg, mixed herbs a bach o paprika a gneud chips cartref gyda fe. Nath un o'n ffrindie gynnig defnyddio passata (sef tomato puree posh o beth dwi'n deall) fel saws tra mae'n y ffwrn ond gewn ni weld. Unrhyw syniade?
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 12:46 pm
gan Kez
Beth am roi lot fawr o 'tabasco' dros y mins - wnaiff hwnna rhoi cic iddo fe
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 12:52 pm
gan finch*
aye, gellid neud. Ma da ni dipyn o Piri Piri a Hot Pepper Sauce yn ty hefyd alle weithio.
Gyda llaw, ges ti dy enwi ar ol Kes y Kestrel yn y llyfre plant?
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 12:53 pm
gan Chwadan
Ma caws feta a mint/rosmari efo cig oen mewn byrgyrs yn neis. Neu falle chydig bach o stilton efo cig eidion?
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 12:55 pm
gan Hogyn o Rachub
finch* a ddywedodd:Dwi'n ffansi neud byrgyrs cartref heno ond yn chwilio am syniade gwreiddiol i ychwanegu at y mins. Y bwriad oedd defnyddio winwns, garlleg, mixed herbs a bach o paprika a gneud chips cartref gyda fe. Nath un o'n ffrindie gynnig defnyddio passata (sef tomato puree posh o beth dwi'n deall) fel saws tra mae'n y ffwrn ond gewn ni weld. Unrhyw syniade?
Ga'i awgrymu ychwanegu puprau coch gweddol mân? Dwi'n meddwl y bydden nhw'n mynd yn dda; a hefyd os oes gen ti ychydig mae'n bosibl y byddai basil ffres wedi'i rwygo mymryn hefyd yn flasus wedi'i gymysgu yn y mins, er dwi byth wedi trio hynny fy hun.
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Gwe 04 Gor 2008 1:09 pm
gan Kez
Re: Be sydd i swper?
Postiwyd:
Sad 04 Hyd 2008 2:01 am
gan Gwenci Ddrwg
Beth am roi lot fawr o 'tabasco' dros y mins - wnaiff hwnna rhoi cic iddo fe
Cic? Na...dwi'n YFED tabasco fel dwr! Ti angen ceisio hwn:
http://en.wikipedia.org/wiki/Habanero_chili. Fwytes i dipyn ar hap ym murger unwaith (diolch i ffrind sadistig) ac o'n i eisiau darfod. (Wrth gwrs garnais oedd o y tro na, nid yn y patty ei hun)