Yn ysyod ymweliad ag Efrog Newydd yn ddiweddar, es i am frecwast i lle bwyd oedd yn arbenigo mewn menyn cnau daear (?). Archebais frechdan o'r enw Elvis oedd yn cynnwys menyn cnau deuar, bananas, bacwn wedi'i crasu a mel rhrwng dau ddarn o fara gwyn ac wedi'i dostio. Roedd yn ffantastic, ond roedd bwyta unhryw beth arall yn ystod oriau golau dydd jest ddim yn opsiwn! Felly, os y'ch chi'n digwydd bod yng nghyffunie Greenwich Village ac yn hoff o gnau daear, ewch yna, chewch chi mo'ch siomi
http://www.ilovepeanutbutter.com/index.cfm