Aberystwyth????

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Aberystwyth????

Postiogan sbidirddyn » Llun 27 Hyd 2003 1:40 pm

Ble sy'n neis yn Aber i fynd mas am swper? Fi ddim yn ffysi. Atebion asap plîs. A hefyd, beth i neud ar ôl swper. Ble ma pawb yn mynd?
cred yn nuw a gwna dy waith
Rhithffurf defnyddiwr
sbidirddyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2003 3:18 pm
Lleoliad: caerdydd a'r west

Postiogan Al Jeek » Llun 27 Hyd 2003 1:58 pm

Be sgen ti mewn golwg - lle fel pub efo bwyd neis ta resturant mwy posh?
Pa mor ddrud?
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 27 Hyd 2003 2:02 pm

Pier brasyri yn leoliad lyfli, ond y lle bwyd gora ydi y lle rhwng Theatr y Castell a'r Llew Du(wa, wedi anghofio'i enw fo, wedi bod i ffwrdd o'r hyfryd dre ers gormod o lawar!) neu ma na le Eidalaidd neis o'r enw Yr Eidal Fach, dros y ffor' a'r Spar bach, a lle Ffrengig lyfli ddim yn bell o fan'no.

Dibynnu sut fwyd tisho rili!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Ramirez » Llun 27 Hyd 2003 2:05 pm

tafarn y Cambrian dros ffordd i Wetherspoons efo bwyd da.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan sbidirddyn » Llun 27 Hyd 2003 2:35 pm

Reit. Sdim ots am arian. Dim byd rhy posh. Dim pyb (achos byddai na ar nos Wener). sdim ots da fi fwyd egsotig chwaith.
cred yn nuw a gwna dy waith
Rhithffurf defnyddiwr
sbidirddyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2003 3:18 pm
Lleoliad: caerdydd a'r west

Postiogan Llewelyn Richards » Llun 27 Hyd 2003 3:04 pm

Gannet's yn top dre yn neis am rywla bach intimate. Neu Casablanca (ti'n cael mynd a dy win dy hun gyn belled a dy fod yn bwcio). Mae'r bistro Ffrengig LeFigaro gyferbyn â'r orsaf yn lysh. Fyddai'n Aber nos Wener hefyd. Beryg mae swpar o Guinness a chrisps yn y Cwps fydd hi i mi. Sado de? :rolio:
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan sbidirddyn » Llun 27 Hyd 2003 4:43 pm

be ti'n neud yn aber nos wener llew? cerdd dant?
cred yn nuw a gwna dy waith
Rhithffurf defnyddiwr
sbidirddyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Gwe 17 Hyd 2003 3:18 pm
Lleoliad: caerdydd a'r west

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Llun 27 Hyd 2003 4:52 pm

Cer i gannets - bistro bach neis gymreig - alli di fynd a gwin dy hun yna (ond ffonia i wneud yn siwr), dimond ar rhai nosweithu fi'n credu. :)
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 28 Hyd 2003 8:58 am

Llygad dy le Sbirddyn. Alaw werin dan 15 yn fy shorts melfared a bo tei. Fyddai'n bloeddio canu ar ol ryw bump neu chwech sydyn. Twll tin cerdd dant.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Mr Gasyth » Maw 28 Hyd 2003 11:35 am

Dos i Pier Brasserie ac ordro dy win wrth y bar, cyn iste wrth y bwrdd a wedyn pan gei di'r bil ar y diwedd fydd y gwin ddim arno fo achos dydi'r waitresses yno ddim yn cyfathrebu'n dda iawn efo'i gilydd.
wel dyne ddigwyddodd i fi unwaith eniwe, dwi heb fod yn ol ers hynny ond mi driai eto'n fuan.
Fel arall Ganetts yn dda ydi, stec dda yn Casablanca er efo reis yn lle chips am ryw reswm, am 'soup of the day' yno WASTAD yn fish.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai