Tudalen 1 o 4

Lle mae'r bwyty Indiaidd gorau yn eich ardal chi?

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 6:01 pm
gan cythralski
Meddwl fysen ni'n gallu creu rhyw 'fap cyri' ar gyfer Cymru.

Wedyn, os oes un ohonon ni'n teithio o un lle i'r llall yng Nghymru, neu yn aros dros nos yn rhywle ac yn ffansi cyri, bydden ni'n gwybod lle i fynd!

Dwi'n mynd i gychwyn efo:

Caerdydd, Cowbridge Road East : 'Januk', uwchben rhyw Italian, gyferbyn a 'The Cod Father' (chippy - enw gret!). Neis iawn. Decor cwl a bwydlen anferth.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 6:06 pm
gan cadiwen
Ma'r Sheesh Mahal yn Gaerfyrddin yn neis iawn 'fyd, a ma'r gost yn rhesymol iawn, heb golli safon da.


Ond ma twll 'n dyn i ddim yn cytuno y bore wedyn - rin of fire! :crio:

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 8:45 pm
gan Rhodri Nwdls
Ok dwi am ryddhau'r gath allan o'r cwd rwan (a syth i'r balti dish...sori)....am le sydd yn anghygoel.

Spice Box ar Woodville Road
- ma'r bwydydd a'r cymysgedd sbeisus yno mor ffresh da chi'n gallu blasu bob sbeis yn unigol a'r eich tafod a ma'n eitha ysgafn ar y brasder o'i gynhlaru a lot o gyris.

Ma'r lle wedi bod ar gau ers tipyn rwan ddo, ond ma'n edrych fel bod o'n ail agor. Dwn im os taw'r un perchnogion ydyn nhw...ddylswn i ddim di crybwyll y lle os ma di cau na ddylswn. Codi gobeihtion pawb fel'na.

PostioPostiwyd: Maw 11 Tach 2003 10:19 pm
gan Barbarella
Lle bendigedig am indians oedd y Pier Tandoori yn Aber - reit ar ben y pier, efo'r môr yn dy amgylchynu di bron, cyris ffantasig a'r bara naan fwya welais di erioed.

Ond mae di cau ers sbel. :crio: Nes i dreulio sawl noson hir a phleserus yno. Rhyw dafarn debyg i un maes awyr sydd yno nawr.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:ddylswn i ddim di crybwyll y lle os ma di cau na ddylswn.

Wps.

Ac ocei, nid indiaidd cweit, ond dwi newydd fod am bryd hyyyyfryd arall o fwyd yn fy hoff fwyty yng Nghaerdydd, y Thai Empire ar Wood Street. Mmmm.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 9:32 am
gan sbidirddyn
Abduls, lawr ar bwys somerfield yn Aberteifi. Bendigeidfran fab Llyr!

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:15 am
gan cadiwen
Barbarella a ddywedodd:Lle bendigedig am indians oedd y Pier Tandoori yn Aber - reit ar ben y pier, efo'r môr yn dy amgylchynu di bron, cyris ffantasig a'r bara naan fwya welais di erioed.

Ond mae di cau ers sbel. :crio: Nes i dreulio sawl noson hir a phleserus yno. Rhyw dafarn debyg i un maes awyr sydd yno nawr.

Rhodri Nwdls a ddywedodd:ddylswn i ddim di crybwyll y lle os ma di cau na ddylswn.

Wps.

Ac ocei, nid indiaidd cweit, ond dwi newydd fod am bryd hyyyyfryd arall o fwyd yn fy hoff fwyty yng Nghaerdydd, y Thai Empire ar Wood Street. Mmmm.



Aye, ma fe'n le sy'n neud bwyd hyfrud, ond os fi'n cofio'n iawn, odd y staff ddim yn deall hiwmor Kiki yn dda iawn. ( ond odd stwff vegan bach fel fflem )

Hefyd nes i ddysgu sut i ddefnyddio chop-sticks yn y lle na - gwd show!

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:30 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dalchini's ar Macintosh Place yn siwpoib.

Ac er nad ydw i'n byw fyna, mae Balti Wallah ar Cowbridge Road East wir yn neis 'fyd.

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 11:43 am
gan 'Nialwch
Janata Palace ar Cowbridge Road Caerdydd gyda'r gorau yn ardal Canton.
Ma'r Cinammon Tree ar King's Road Pontcanna'n braidd yn ddrud, ond ma'r dewis o fwyd yn anhygoel.
Oh ie, ac os i chi ishe "west is best" fydden i'n cynnig y Shapla Tandoori yn Llambed.

_______________________

"Silly Fakhir"

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:47 pm
gan eusebio
Agra yn y Fali - mae'n wych

Têc awê neu BYO ydi o, ac mae pobl yn teithio am filltiroedd i gael eu bwyd yma.

Garynysmôn, wyt ti 'di bod yna?

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 5:49 pm
gan Barbarella
cadiwen a ddywedodd:
Barbarella a ddywedodd:Ac ocei, nid indiaidd cweit, ond dwi newydd fod am bryd hyyyyfryd arall o fwyd yn fy hoff fwyty yng Nghaerdydd, y Thai Empire ar Wood Street. Mmmm.



Aye, ma fe'n le sy'n neud bwyd hyfrud, ond os fi'n cofio'n iawn, odd y staff ddim yn deall hiwmor Kiki yn dda iawn. ( ond odd stwff vegan bach fel fflem )

Hefyd nes i ddysgu sut i ddefnyddio chop-sticks yn y lle na - gwd show!

Yyy? Dim am fynna fi'n sôn! Chinese yw hwnna y mwlsyn!

Mae'r Thai Empire ar Wood St ar bwys yr orsaf.

Ond odd y Chinese na'n ocei 'fyd.