gan Fatbob » Llun 17 Tach 2003 5:21 pm
Dwi'n cytuno da Siffrwd ynglyn a'r Sheesh Mahal yng Nghaerfyrddin, fues i yna nos Sadwrn, roedd y bwyd yn oce ond roedd y 'service' yn warthus. Treulies i bedair awr yna am bryd dau gwrs, nid oherwydd y mod i'n siarad ond oherwydd ei bod yn ein hanwybyddu ni.
Bwyd Indiaidd gore yng Nghaerfyrddin yw'r Spice Hut ond dim on teca we sydd ar gael. Bobol neis fyd yna. A dyw'r mint sauce ddim yn illuminous.
Di bod i'r Cinnamon Tree yng Nghaerdydd ac mi enjoies i, bach yn ddrud, gwell mynd i'r Juboraj yn Rhiwbeina am bryd bwyd da a bach yn llai costus (ma Tom Jones yn bwyta yno o byrd i'w gilydd - woo hoo!).
'Nialwch, diolch am fy atgoffa i am Janata Palace yn Canton. Dwi'm di bod yna am flynyddoedd ond ro'n ni'n arfer mynd yn wythnosol nol yn 1996/97! My God dwi'n mynd yn hen, ma amser yn mynd yn gyflym. Rodd y bwyd bryd hynny yn dda iawn, pris teidi a'r hen foi oedd yn berchen y lle yn gwd laff. Cymro odd yn coginio ar y pryd hynny, ma'n siwr fod pethe di hen newid.
Yng Nghasnewydd ma'r Bombay Bicycle yn eithridaol o rhad ac ma Albwm's Tom Jones dros y walie i gyd (dwi'm yn ffan rili ond ma fe'n ymddangos yn y neges yma ddwy waith - aaaggghhhh). Ond y cyrri gore yng Nghasnewydd yw'r Newport Spice Centre yn Maindee, ma'r cwrw'n dda fyd, tri ar dap Cobra, Kingfisher a un arall dwi methu meddwl amdano. Ma'r Prawn Puri'n dda iawn yna.
A na dwi'm yn gyrri ffan eithriadol jyst di cael cyfle i gael blas ar fy nhrafels.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!