Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 6:00 pm
gan cythralski
Wel bai ti ydy o babs am newid y pwnc yn y lle cynta!

Confiwsio Cadiwen fach! Ti'n gwbod bod hi'n ddelicet!

Anyway, mae na edefyn Chinese di cychwyn rwan i ti a dy gomments dryslyd. :winc:

PostioPostiwyd: Mer 12 Tach 2003 7:31 pm
gan Barbarella
cythralski a ddywedodd:Anyway, mae na edefyn Chinese di cychwyn rwan i ti a dy gomments dryslyd. :winc:


Ond dim Chinese o'n i'n sôn am! cadiwen dechreuodd hwnna!

Wedi dechrau edefyn Thai newydd fel bod fi'n cael trafod y Thai Empire ar ben fy hun :(

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 12:26 pm
gan Cardi Bach
Y Taj Inn, Llandysul - y Cyri gore yn Ne Orllewin Cymru yn ddi-os. Fflemnomenol :D

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 12:29 pm
gan Madrwyddygryf
The Paradise yn Canton yn lle neis iawn.

Un o ffefrynau yn Abertawe oedd oriau 'eat as much as you like' yn y Viceroy ar St Helens Road. Ond teimlo yn swp sal y diwrnod wedyn.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 12:42 pm
gan Geraint
Mae y Cinnamon Tree yn fendigedig. A ma fe'n 'Endorsed by rugby Legend Jonathan Davies', wel ma fe na trwy'r amser eniwe.

Rhaid cael Cobra gyda cyri, cwrw campus.

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 10:07 pm
gan Siffrwd Helyg
www na allai ddim cytuno da hyn!!

Es i na unwaith a gymerodd e awr a hanner i'n bwyd ni ddod ac odd en OER pan dath e!! :x

Ma'r bobl sy'n gweithio na'n real surbwch fyd - nathon ni ofyn am jwg o ddwr pan gathon ni'n bwyd a dath e ddim nes i ni orffen! faint o amser mae'n cymryd i lenwi jwg o ddwr?!?!

Tabeth, fel chi'n gweld, sain lico'r lle....y taj balti LOT neisach!! iym iym in mei tym!! :D

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2003 10:10 pm
gan Geraint
Pa le Miss Helyg? :?

PostioPostiwyd: Sad 15 Tach 2003 9:44 am
gan Blewgast
Ma bwyty Llambed yn neis - sori dwi ddim yn cofio'r enw!!ges i llwyth o laffs pan es i na, achos ro'dd yr indians, whare teg iddyn nhw, yn ymdrechu i ymuno yn ein hwyl ni (sef merched y clwb ffermwyr ifanc) ac yn siarad cymraeg (wel.....trio ta beth!), a nethon ni ddysgu geirfa ehangach o gymraeg parchus iddyn nhw! :P

Ond ro'dd un gweinydd ifanc 'na heb lot o glem shwt i wthio'r troli - nath e fwmpo mewn i'n bwrdd ni, a bron a'i fwrw e drosodd!twmffat!!

PostioPostiwyd: Sad 15 Tach 2003 10:10 pm
gan Siffrwd Helyg
Pa le Miss Helyg?




Wps sori :wps: :wps:

Anghytuno gyda cadiwen on i am y sheesh mahal yng nghaerfyrddin;
Ma'r Sheesh Mahal yn Gaerfyrddin yn neis iawn 'fyd, a ma'r gost yn rhesymol iawn, heb golli safon da.




:rolio:

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 5:21 pm
gan Fatbob
Dwi'n cytuno da Siffrwd ynglyn a'r Sheesh Mahal yng Nghaerfyrddin, fues i yna nos Sadwrn, roedd y bwyd yn oce ond roedd y 'service' yn warthus. Treulies i bedair awr yna am bryd dau gwrs, nid oherwydd y mod i'n siarad ond oherwydd ei bod yn ein hanwybyddu ni.

Bwyd Indiaidd gore yng Nghaerfyrddin yw'r Spice Hut ond dim on teca we sydd ar gael. Bobol neis fyd yna. A dyw'r mint sauce ddim yn illuminous.

Di bod i'r Cinnamon Tree yng Nghaerdydd ac mi enjoies i, bach yn ddrud, gwell mynd i'r Juboraj yn Rhiwbeina am bryd bwyd da a bach yn llai costus (ma Tom Jones yn bwyta yno o byrd i'w gilydd - woo hoo!).

'Nialwch, diolch am fy atgoffa i am Janata Palace yn Canton. Dwi'm di bod yna am flynyddoedd ond ro'n ni'n arfer mynd yn wythnosol nol yn 1996/97! My God dwi'n mynd yn hen, ma amser yn mynd yn gyflym. Rodd y bwyd bryd hynny yn dda iawn, pris teidi a'r hen foi oedd yn berchen y lle yn gwd laff. Cymro odd yn coginio ar y pryd hynny, ma'n siwr fod pethe di hen newid.

Yng Nghasnewydd ma'r Bombay Bicycle yn eithridaol o rhad ac ma Albwm's Tom Jones dros y walie i gyd (dwi'm yn ffan rili ond ma fe'n ymddangos yn y neges yma ddwy waith - aaaggghhhh). Ond y cyrri gore yng Nghasnewydd yw'r Newport Spice Centre yn Maindee, ma'r cwrw'n dda fyd, tri ar dap Cobra, Kingfisher a un arall dwi methu meddwl amdano. Ma'r Prawn Puri'n dda iawn yna.

A na dwi'm yn gyrri ffan eithriadol jyst di cael cyfle i gael blas ar fy nhrafels.