Geraint a ddywedodd:Mae y Cinnamon Tree yn fendigedig. A ma fe'n 'Endorsed by rugby Legend Jonathan Davies', wel ma fe na trwy'r amser eniwe.
Af i byth yna eto er bod y bwyd yn dda. Ro'n i yna rhyw noson gyda 3 o ffrindie, yn gynnar yn y noson, sidet iawn, pawb yn sobor. Am ddim rheswm o gwbl fe ddechreuodd y fenyw ar y ford drws nesa i ni weiddi abiws arnon ni am siarad Cymraeg. Roedd hi'n amlwg ddim yn iawn yn y pen. Ond roedd e'n brofiad eitha' upsetting i ni. Naethon ni drio anwybyddu hi ond roedd hynny'n amhosib achos bod hi'n gweiddi cymaint a phethe mor ffiaidd. Ond pan naethon ni ofyn i'r staff os oedden nhw'n gallu symud hi, naethon nhw drio perswadio ni i symud i ddechre. Roedden ni'n gwrthod gwneud hynny achos nad ni oedd wedi achosi'r trwbwl. Wedyn naethon nhw fygwth ein taflu ni allan!! Ac anwybyddu'r fenyw boncyrs yn llwyr.
Yn y diwedd fe symudodd y fenyw boncyrs (cyn cerdded mas ar ei gwr ynghanol y pryd bwyd). Ond roedd agwedd y bobol oedd yn gweithio yna'n ofnadwy.