Tudalen 3 o 4

Cinnamon Tree

PostioPostiwyd: Llun 17 Tach 2003 5:33 pm
gan Clarice
Geraint a ddywedodd:Mae y Cinnamon Tree yn fendigedig. A ma fe'n 'Endorsed by rugby Legend Jonathan Davies', wel ma fe na trwy'r amser eniwe.


Af i byth yna eto er bod y bwyd yn dda. Ro'n i yna rhyw noson gyda 3 o ffrindie, yn gynnar yn y noson, sidet iawn, pawb yn sobor. Am ddim rheswm o gwbl fe ddechreuodd y fenyw ar y ford drws nesa i ni weiddi abiws arnon ni am siarad Cymraeg. Roedd hi'n amlwg ddim yn iawn yn y pen. Ond roedd e'n brofiad eitha' upsetting i ni. Naethon ni drio anwybyddu hi ond roedd hynny'n amhosib achos bod hi'n gweiddi cymaint a phethe mor ffiaidd. Ond pan naethon ni ofyn i'r staff os oedden nhw'n gallu symud hi, naethon nhw drio perswadio ni i symud i ddechre. Roedden ni'n gwrthod gwneud hynny achos nad ni oedd wedi achosi'r trwbwl. Wedyn naethon nhw fygwth ein taflu ni allan!! Ac anwybyddu'r fenyw boncyrs yn llwyr.
Yn y diwedd fe symudodd y fenyw boncyrs (cyn cerdded mas ar ei gwr ynghanol y pryd bwyd). Ond roedd agwedd y bobol oedd yn gweithio yna'n ofnadwy.

PostioPostiwyd: Mer 19 Tach 2003 6:14 pm
gan Nick Urse
Mond un Indian gwerth 'i halan sy 'na (y tu allan i India, wrth reswm pawb), a hwnnw 'di'r Sitar yn Pesda. Bara naaaaaaaaaan fatha gwrthbannau melfedaidd a'r baltis gora ar wynab daear. Ewch yno'n llu. Chewch chi mo'ch siomi...
(Balti corgimwch, peshwari naaaaaaan a reis plis Raji Sinkhali.)

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 10:18 am
gan Geraint
I chi sydd yn byw yn y brifddinas, gai argymell Nadiah Balti fel lle da i cael tec awe. Mae o gyferbyn i Summerfield ar Heol Bont Faen, newydd agor, felly ma nhw'n neud ymdrech fawr, ma fe'n lan, cyflym a rhad, a ma'r cyris yn hyfryd.

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 3:58 pm
gan garynysmon
eusebio a ddywedodd:Agra yn y Fali - mae'n wych

Têc awê neu BYO ydi o, ac mae pobl yn teithio am filltiroedd i gael eu bwyd yma.

Garynysmôn, wyt ti 'di bod yna?


Dwi di bod yna unwaith. Impressed iawn, mae fy nheulu dal yn mynd yna. Mae fy chwaer yn ffan mawr o'r lle.
Tra dwi'n byw ym Mangor dwi reit licio yr un sydd reit drws nesa i Wetherspoons. Ond allai ddim yn fy myw a cofio be ydi enw'r lle! :wps:

PostioPostiwyd: Maw 25 Mai 2004 9:18 pm
gan Cynan Bwyd
indians gore aber ydi Agra

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:36 pm
gan Mwnci Banana Brown
Cardi Bach a ddywedodd:Y Taj Inn, Llandysul - y Cyri gore yn Ne Orllewin Cymru yn ddi-os. Fflemnomenol :D


Mae'n amlwg so ti di galw da Abdul yn Aberteifi de! Ma abdul yn deall i stwff. Lot neisach nar lle nan llandysul ychan. Abduls- biwt! :winc: :winc: cerwch na gloi!

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 1:47 pm
gan S.W.
Yr Ammantola ar ochr yr A55 yng Nglannau'r Dyfrdwy tra'n mynd i gyfeiriad Caer a Ellesmere Port. Yn nol rhywun sydd a ty bwyta Indiaidd yn Llundain dyma un o'r 10 gorau ym Mhrydain (yn dilyn cystadleuaeth). Yn rhoi diod Baileys am ddim ar ol ei orffen hefyd oedd yn neis (piti bod dwi methu dioddef Baileys :crio: )

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 5:42 pm
gan LMS
Ma'r indian sy'n agos i Wetherspoons Bangor yn neis.

'Royal' ne rwbeth.

Er bod wierdos meddw (yn cynnwys fy hun!! :? Wps! :wps: )
ar eu ffordd o Wetherspoons i Octagon yn
gweiddi a taro'r ffenest! :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 26 Mai 2004 7:20 pm
gan garynysmon
LMS, dwi rioed di gweld chdi'n taro'r ffenest. Paid a tri gwneud dy hun allan fel rhyw fath o weirdo meddw! :winc:

Ia, Royal Tandoori ydi enw'r lle.

PostioPostiwyd: Iau 27 Mai 2004 10:33 am
gan LMS
Dwyt ti ddim yn aros wrth fy ochr bob munud o'r dydd/nos cofia garynysmon!!!

Pan dwi efo ffrindiau yn cerdded o Wetherspoons dwi'n dueddol o adael i'r alcohol 'take over' ac felly dwi'n taro'r ffenestr a gweiddi! :ofn:

Mi wnai drio peidio yn y dyfodol! :wps: