Re: Lle mae'r bwyty Indiaidd gorau yn eich ardal chi?
Postiwyd: Sul 31 Mai 2009 8:09 pm
gan Dili Minllyn
Heb oes hwn yw'r bwyty Indiaidd gorau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, yn bennaf am eu bod nhw'n gwneud bwyd gwirioneddol Indiaidd yn lle'r slwts mewn saws sydd i fod y blesio ciniawyr Prydeinig.
Re: Lle mae'r bwyty Indiaidd gorau yn eich ardal chi?
Postiwyd: Mer 10 Meh 2009 4:17 pm
gan Awen92
Marks and Spencer amdanon ni fel arfer!!
Re: Lle mae'r bwyty Indiaidd gorau yn eich ardal chi?
Postiwyd: Maw 30 Meh 2009 3:32 pm
gan Rhodri
Dili Minllyn a ddywedodd:slwts mewn saws
Hen ffefryn.
Ac i luchio fy nwy rupee i mewn - ma Polash ym Mhwllheli yn fwyty rhyfeddol o dda sy'n gneud chwip o jalfrezi da, a ma'r Dansak yn un poeth o safon. A ma Ian Brown yn deud ei fod o'n "Best food in North Wales" (tua 6 mlynadd yn ol). Dai'm i ddadl.
Re: Lle mae'r bwyty Indiaidd gorau yn eich ardal chi?
Postiwyd: Iau 02 Gor 2009 10:33 am
gan Doctor Sanchez
Sopna yn Pontrug? (Wrth ymyl Cibyn) a ma na le da di agor yn Nefyn hefyd.