Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Maw 09 Rhag 2003 12:56 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae'r mwstard cwrw chi'n gallu cael o deli 'Forum' ar Heol y Crwys yn cicio pen-ol yn swyddogol! Cytuno mai mwstard 'wholegrain' yw'r gore; mae mwstard Lloegr yn rhy gryf. Fi wir yn hoff o gael brechdan selsig gyda bara wholemeal a mwstard wholegrain. Phwoar... (glafoerio, glafoerio)

PostioPostiwyd: Sul 18 Chw 2007 2:05 pm
gan Dili Minllyn
Dw i wedi newydd gael mwstard gyda wisgi a mêl o Howell's, Caerdydd. Nefol.

PostioPostiwyd: Sul 18 Chw 2007 6:03 pm
gan Sili
Dos na'r un sos gwell na mwstard :D

Y ffefryn ar y funud ydi digon o'r Inglish i dynnu dwr i'r llygad ar fechdan caws di tostio niam niam! Ma Dijon yn nefolaidd efo stecen Welsh Black waedlyd 'fyd.

A ma finag yn hyfryd ar bob dim, ond fod angen tollti bwcedi o'r stwff i neud sglodion flasu'n neis. Ma'n dda iawn wrth lanhau briwiau fatha antiseptic hefyd!

PostioPostiwyd: Sul 18 Chw 2007 10:01 pm
gan y fi fach
Mae mwsdad melyn yn beth anhygoel o neis. Er na saesneg dio, man lyfli. man mynd fo bechdana ham yn berffaith, a fo sdec, nd man arbennig wedi gymysgu fo mel a siwgr brown a wedi ei deunu ar ochr darn o ham cyn i bobi fo. a vn cytuno fo gwahanglwyf fod bechdan sosej a mwsdad yn fendigedig. dwisho bwyd wan.

PostioPostiwyd: Sul 18 Chw 2007 11:11 pm
gan Rhodri Nwdls
Mwstard dijon Maille "Mi-Forte" ydi'r un i fi ar hyn o bryd. Mae'r Dijon gyda cyrainj duon yn hyfryd 'fyd. Ond ie, wholegrain ydi'r dadi ar y cyfan - yn arbennig gyda ham. Ond cytuno a Sili, Dijon efo biff.

PostioPostiwyd: Llun 19 Chw 2007 1:59 pm
gan garetshyn
Mwstard cymreig i fi, ma fe’n lyyyyfli! Cwmni "The Welsh Mustard Company" o Gilau Aeron sy'n 'i 'neud e fi'n meddwl.

Ni’n mynd trwy jarie o’r stwff yn tŷ ni – ma cic eitha hegr gyda fe fel inglish, ond blas mwy melys (rhywbeth i neud â’r mêl sydd ynddo fe siŵr o fod). Mae e’n cael ei weini mewn amryw o lefydd bwyd yng Nghaerdydd erbyn hyn – lliw coch amlwg arno. Ma amryw o archfarchnadoedd yn gwerthu’r stwff erbyn hyn hefyd, a marchnadoedd sy’n gwerthu cynnyrch lleol ag ati. Iymi :D

PostioPostiwyd: Sad 24 Chw 2007 9:04 am
gan Dili Minllyn
Newydd gael chrzan z gorczycą, sef mwstard a rhuddygl y meirch (horseradish) o adran Bwylaidd Sainsbury's Henffordd, Cyfuniad blasus iawn, a'r rhuddygl yn rhoi rhyw gic annisgwyl ar y diwedd. Dwi'n cymryd fod e ar gael o siopau Pwylaidd eraill.

PostioPostiwyd: Sad 24 Chw 2007 11:05 pm
gan Mali
Dwi wrth fy modd efo unrhyw fath o fwstad i ddeud y gwir. Ond fy ffefryn ar fechdan ham ydi yr un Saesneg ! Mi fyddai'n defnyddio y Dijon efo grains bach i wneud dressing ar gyfer salad. Mmmmm blasus iawn.
1 llwy fwrdd o fwstad dijon
1 llwy fwrdd o finagyr gwin coch
hanner llwy de o siwgr
3 llwy fwrdd o olew olewydd
:D

PostioPostiwyd: Sul 04 Maw 2007 9:31 am
gan Dili Minllyn
Mae mwstard, hefyd, yn un o gynhwysion hanfodol urhyw saws caws gwerth ei halen (neu' fwstard).

PostioPostiwyd: Maw 06 Maw 2007 8:45 pm
gan asuka
cytuno â dili minllyn: *rhaid* cael mwstard mewn saws caws. hyfryd ar lysiau o bob math.
ces i fwstard grîns mewn bwyty indiaidd yn ddiweddar. wedi'u coginio gydag olew mwstard hefyd, wi'n credu - son am brofiad mwstard! 'ro'n i heb eu blasu nhw o'r blaen ac mmm... neis iawn.