Coffi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa un da chi'n licio?

Capwtshino
2
6%
Latte
7
21%
Espresso
2
6%
Mocha
6
18%
Cafetiere (du neu wyn)
14
41%
Instant
3
9%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan lleufer » Gwe 12 Ion 2007 4:20 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:thra bod coffi ffres yn ffridj

Wyt ti'n cadw dy goffi yn y ffrij? Ydi hwnna'n gadw nhw'n well neu beth?


Dylai coffi gael ei gadw oddiwrth oleuni, ocsigen, tamprwydd a gwres. Mwyaf 'airtight' yw eich cynhwysydd - gorau'n byd, yna rhowch e mewn lle tywyll sych a chlaer ond dim yn rhy oer.

Y broblem gyda cadw coffi mewn oergell yw pob tro 'dych chi'n agor y cynhwysydd i dynnu coffi allan mae aer cynnes yn anweddu ar y coffi ac yn dirywio'r blas - mae safon blas coffi yn beth sensetif iawn ac yn medru cael ei effeithio arno yn hawdd gan newid tymheredd aml a blasau cryf arall.

Tip bach...wedi chi falu'r coffi fel rydych chi'n hoffi yna rhowch e mewn bagiau bach wedi cau yn dyn (mesul digon i un panaid er enghraifft) yna rhowch hwy mewn lle claer tywyll. Yna cewch goffi fwy ffres pob tro.

Ni ddylid coffi wedi falu gael ei gadw am fwy na phythefnos ar ol ei agor.

Os da chi'n prynu ffa coffi yn hytrach na choffi wedi falu a'ch bod yn dueddol o'i gadw am amser hir (mwy na phythefnos) yna fe allwch eu cadw, wedi cau yn dyn, yn y rhewgell cyn belled a'ch bod yn galluogi bo'r ffa yn mynd yn syth i'r peiriant malu ac yna'n syth i'r peiriant coffi ar ol eu tynnu allan. :winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Ion 2007 4:32 pm

Neu allwch chi rewi fo. Ma coffi'n cadw'n grêt yn y ffrîsyr.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Sad 13 Ion 2007 2:32 pm

mmmm, rol peidio yfad coffi am amser maaaaaaith iawn dwi di dechra eto wan ac yn raddol dod yn hwc i'r stwff...

ddath rhen sion corn a caffitier bach ciwt i fi dolig ma - dim rhu fach 6 cwpanad / 3 myg... a ma'n loooooooooods neisiach na stwff instant...

mmmmmmmm
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 13 Ion 2007 2:42 pm

fi wedi cael 4 paned o 'Guatemala Eliphant' coffi o siop Whittard heddi neis iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Deryn Du » Sad 13 Ion 2007 7:43 pm

Mocha di ffefryn fi :D
How is your problem my problem?
Rhithffurf defnyddiwr
Deryn Du
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 18 Mai 2004 5:59 am
Lleoliad: Rhywle tisho

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron