Griff-Waunfach a ddywedodd:Dwlwen a ddywedodd:thra bod coffi ffres yn ffridj
Wyt ti'n cadw dy goffi yn y ffrij? Ydi hwnna'n gadw nhw'n well neu beth?
Dylai coffi gael ei gadw oddiwrth oleuni, ocsigen, tamprwydd a gwres. Mwyaf 'airtight' yw eich cynhwysydd - gorau'n byd, yna rhowch e mewn lle tywyll sych a chlaer ond dim yn rhy oer.
Y broblem gyda cadw coffi mewn oergell yw pob tro 'dych chi'n agor y cynhwysydd i dynnu coffi allan mae aer cynnes yn anweddu ar y coffi ac yn dirywio'r blas - mae safon blas coffi yn beth sensetif iawn ac yn medru cael ei effeithio arno yn hawdd gan newid tymheredd aml a blasau cryf arall.
Tip bach...wedi chi falu'r coffi fel rydych chi'n hoffi yna rhowch e mewn bagiau bach wedi cau yn dyn (mesul digon i un panaid er enghraifft) yna rhowch hwy mewn lle claer tywyll. Yna cewch goffi fwy ffres pob tro.
Ni ddylid coffi wedi falu gael ei gadw am fwy na phythefnos ar ol ei agor.
Os da chi'n prynu ffa coffi yn hytrach na choffi wedi falu a'ch bod yn dueddol o'i gadw am amser hir (mwy na phythefnos) yna fe allwch eu cadw, wedi cau yn dyn, yn y rhewgell cyn belled a'ch bod yn galluogi bo'r ffa yn mynd yn syth i'r peiriant malu ac yna'n syth i'r peiriant coffi ar ol eu tynnu allan.