mmmmmm...coffi
Dwi'n trio peidio yfad gormod o'r stwff (gen i un neu ddau o ffrindia sy'n addicts go iawn) ond dwi wrth fy modd efo coffi ffresh, joch o lefrith a dim siwgwr o gwbwl, nowehose. Ma siwgr yn difetha holl flas chwerw/llyfn y coffi yn gyfangwbl.
Newydd fod yng Nghatalunya a 'cortado' o'n i'n yfad yn fanno = coffi bach gwyn cry' mewn gwydryn shot
Cwestiwn = *PAM BOD COFFI'R CYFANDIR WASTAD YN CICIO TIN COFFI ADRA?*
Fasa rhan fwy o Ewrop ddim yn bwriadu rhoi coffi instant i chdi hyd yn oed yn y llefydd mwya dinji, felly pam ma'n rhaid inni ddiodda coffi piso dryw yn fama? Mae'n hen bryd i Gymru ddeffro a ogleuo'r coffi(sori
)
ma starbucks yn DDRWG!