Coffi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa un da chi'n licio?

Capwtshino
2
6%
Latte
7
21%
Espresso
2
6%
Mocha
6
18%
Cafetiere (du neu wyn)
14
41%
Instant
3
9%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan branwen llewellyn » Sul 01 Chw 2004 10:53 pm

mmmm....coffi.....mae o'n hyfryd, ond mae'n rhaid iddo fo gael ei neud yn iawn! 'dwi'm yn meindio instant, llaeth dim siwgwr....mmmm...coffi.....ond well gen i 'coffi deche' chwedl yntau - llaeth dim siwgwr....ond ar adegau barus, mi ga' i goffi drwy laeth, capuchino neu mocha....mmm....coffi...

damia chi, rhaid i fi 'nol paned wan does!! damo damo damo!
pish pash potas
Rhithffurf defnyddiwr
branwen llewellyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 242
Ymunwyd: Sul 13 Ebr 2003 10:22 pm
Lleoliad: llanuwchllyn

Postiogan Lowri Fflur » Sul 01 Chw 2004 11:24 pm

Be mae cwrw heb alcohol yn blasu fel? Yr un peth blaw heb y hit?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Da ni di symud i fama i siarad am goffi

Postiogan Prysur » Gwe 12 Ion 2007 10:36 am

Gawn ni siarad am goffi yn fama ta misus?
Hair Guest
Rhithffurf defnyddiwr
Prysur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:02 am

Postiogan Dwlwen » Gwe 12 Ion 2007 10:40 am

Fi'n *calon* coffi.

1 - 2 gwpan y dydd (mwy 'na hynny a wy'n ffindo'n hun ar ddihun trwy'r nos yn hel meddyliau erratic a'n crensio'n 'nannedd.*) Coffi ffres bob tro, o gafetiere gan amla, ond weithau'r moka. Pa fath yn dibynnu ar be ddoi o hyd iddo yn y ffridj... Wy'n meddwl taw Columbian yw e ar hyn o bryd.

O'n i'n arfer bod yn gwsmer selog cappuccino's y bwyty Eidaleg 'rownd y gornel, ond dwi 'di callio erbyn hyn a thra bod coffi ffres yn ffridj, sdim angen gwaraio arian rownd y gornel.

Wedi gweud 'nny, dyw penwythnose ddim yn cyfri... Myged syml o house blend yw'r hawsaf mewn unrhyw siop goffi, ond y ffefryn (os allai fod yn arsed i aros amdano fe) fyse latte gyda 3 shot o esspresso. Mmmmm.

Ma well gen i goffi nag unrhyw ddiod meddwol. A tase siope coffi'n agor yn hwyr ganol dre, 'sen i 'di arbed lot o gywilydd dros y blynydde... :winc:

*ma hyn yn digwydd yn itha aml heb ddylanwad caffeine, gwaetha'r modd, jyst fod y coffi'n gatalydd...
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 12 Ion 2007 10:56 am

Dwlwen a ddywedodd:thra bod coffi ffres yn ffridj


Wyt ti'n cadw dy goffi yn y ffrij? Ydi hwnna'n gadw nhw'n well neu beth?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 12 Ion 2007 10:57 am

Dwy fygied o Java o Mecca wedi ei wneud mewn caffatiere syth ar ol cyrredd gwaith, du efo dau siwgwr, a dwi'n iawn am weddill y dydd.

Os dwi di blino'n waeth nag arfer yn cyrred adre ag efo rwbeth ond diogi i neud y noson honno ella gai expresso wedi ei wneud mewn Moka pot ar yr hob. Java eto, ond wedi ei falu yn fanach wrth gwrs. Du efo siwgwr eto.

Ma'r pot ar yr hob yn brysur drwy'r penwythnos hefyd.

Oes gan unrhywun arhymhelliad am goffi tebyg i Java ond fase'n change bach? Columbian Mountain ydi'r llall dwi'n hoff ohono ond ma'n ddrytach.

Dwi'n gadw o'n ffrij heyd - mae rhai'n ei gadw'n y rhewgell!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dwlwen » Gwe 12 Ion 2007 11:01 am

Griff-Waunfach a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:thra bod coffi ffres yn ffridj

Wyt ti'n cadw dy goffi yn y ffrij? Ydi hwnna'n gadw nhw'n well neu beth?

Ma'r ffridj, yn gyfferdinol, yn dda am gadw stwff yn ffres... :winc:

Chwaeth yw e... Sai wir yn poenu p'unai yw'r coffi'n aros mas neu'n byw yn y ffridj - jyst bod pobl wy'n byw 'da nhw/ gweithio 'da nhw, yn dueddol o sticio'r coffi yn y ffrij.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 12 Ion 2007 11:05 am

Just wedi sylwi pa mor dwp oedd beth ysgrifennais! Just sai wedi clywed am unrhywun yn cadw coffi yn y ffridj o'r blaen. wedi dwud hynny dwi yn tynnu'r coffi allan o'r cwdyn a'i rhoi mewn typperwear box! llawer mwy haws a dim blydi coffi yn sathru ymhob man am 7 y bore!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Sili » Gwe 12 Ion 2007 11:13 am

Dwi di bod yn byw ar lond berfa o instant esspresso efo rhyw ddau shot o Baileys wedi ei gymysgu yn y myg mwyaf allai ffeindio yn ddiweddar tra fod gennai arholiada. Hollol hyfryd, er dwi'n ama nad ydi gymaint a hynny o gaffin (i rhywun sydd chydig yn sensitif i'r stwff) yn iach i'r ysbryd.

Fel arall dydwi'm yn ffysi iawn ar sut siap sydd ar y coffi o mlaen. Cappuccino neu ambell moka yn mynd lawr yn ffein fodd bynnag!
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Cymro13 » Gwe 12 Ion 2007 11:21 am

Latte o Caban yn Aberystwyth
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai