Fi'n *calon* coffi.
1 - 2 gwpan y dydd (mwy 'na hynny a wy'n ffindo'n hun ar ddihun trwy'r nos yn hel meddyliau erratic a'n crensio'n 'nannedd.*) Coffi ffres bob tro, o gafetiere gan amla, ond weithau'r moka. Pa fath yn dibynnu ar be ddoi o hyd iddo yn y ffridj... Wy'n meddwl taw Columbian yw e ar hyn o bryd.
O'n i'n arfer bod yn gwsmer selog cappuccino's y bwyty Eidaleg 'rownd y gornel, ond dwi 'di callio erbyn hyn a thra bod coffi ffres yn ffridj, sdim angen gwaraio arian rownd y gornel.
Wedi gweud 'nny, dyw penwythnose ddim yn cyfri... Myged syml o house blend yw'r hawsaf mewn unrhyw siop goffi, ond y ffefryn (os allai fod yn arsed i aros amdano fe) fyse latte gyda 3 shot o esspresso. Mmmmm.
Ma well gen i goffi nag unrhyw ddiod meddwol. A tase siope coffi'n agor yn hwyr ganol dre, 'sen i 'di arbed lot o gywilydd dros y blynydde...
*ma hyn yn digwydd yn itha aml heb ddylanwad caffeine, gwaetha'r modd, jyst fod y coffi'n gatalydd...