Coffi

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa un da chi'n licio?

Capwtshino
2
6%
Latte
7
21%
Espresso
2
6%
Mocha
6
18%
Cafetiere (du neu wyn)
14
41%
Instant
3
9%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Ger27 » Gwe 12 Ion 2007 11:41 am

Nes i fod yn hogyn da wsnos dweutha a prynu coffi free-trade o co-op (dim i wneud hefo'r ffaith bod o'n hanner pris). Eniwe, mae'r peth yn afiach. Mwy na thebyg y jar gwaethaf o goffi 'dwi erioed di brynu - fwy a flas ar biso cath (dyfaliad!). 'Dwi o blaid bwyd fair trade ac organic ond os tydi nhw ddim i'r un safon (er eu bod, fel arfer, yn lawer drytach), yna ni ellir beio bobl am beidio prynu'r stwff.

Switcho nol i'r "Kenco Really Rich" dwi'n meddwl.[/i]
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 12 Ion 2007 11:55 am

Unrhywun arall yn darllen hwn a meddwl, no shit Sherlock?

Mae coffi yn gwella pob anhwylder. Ffaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Geraint » Gwe 12 Ion 2007 12:10 pm

Ges i beiriant Cappuccino i nadolig, mmmm.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Prysur » Gwe 12 Ion 2007 12:25 pm

Dwi'n meddwl fod y bobol sy'n son am yfed eu coffi yn ddu yn gweld eu hunain yn well. Debyg iwan i bobl sy'n licio lot o chillis ac yn brolio am y peth. Dwi'n bwyta'n muller corner pot un cornel ar y tro a wedyn llyfu'r ffoil. Ydi hunna'n ngwneud i'n dipyn o foi?
Hair Guest
Rhithffurf defnyddiwr
Prysur
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 36
Ymunwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:02 am

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 12 Ion 2007 12:27 pm

Prysur a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod y bobol sy'n son am yfed eu coffi yn ddu yn gweld eu hunain yn well. Debyg iwan i bobl sy'n licio lot o chillis ac yn brolio am y peth. Dwi'n bwyta'n muller corner pot un cornel ar y tro a wedyn llyfu'r ffoil. Ydi hunna'n ngwneud i'n dipyn o foi?


Ydi glei!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Ion 2007 12:28 pm

Rhaid i fi gyfadda mod i'n snob coffi. Ma'r rhan fwya o instants yn ming-a-ding-ding. Jest blas cemegolion. Pach!

Ond, ma Kenco Really Rich yn reit dderybiol efo llaeth a siwgr. Ddim mor neis yn ddu.

Pan oedd gen i beiriant espresso ( :crio: ) Lavazza oedd y coffi i roi crema da a hit lyfn. Allwch chi byth gael grind mor fân a lavazza gan grindiwr arferol. Mae'n nhw'n neud o bron yn llwch. lyfli job.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 12 Ion 2007 12:52 pm

Tra ron i'n Bosnia dros yr haf, es i reit addicted i goffi Twrcaidd, sy'n cael ei yfed allan o'r sospan leia welsoch chi erioed. Hyfryd o stwff, a tase gen i le yn fy mag faswn i wedi dod a set o't offer pres adre efo fi. Ma angen y coffi fel llwch i neud hwnnw hefyd, a mae o yn y gwpan felly ma'n bysig stopio cyn cyrredd y gwaelod os nad am lond ceg o fwd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Ion 2007 1:10 pm

Ges i bowlan (bomba) mate am y Nadolig. Un go dwi di gael arno fo ag oedd o'n lyfli. Dwn im os wna i ei ddefnyddio'n aml, ond fyddyn neis i;w gael bob yn hyn a hyn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan khmer hun » Gwe 12 Ion 2007 2:01 pm

Peiriant espresso yw'r peth gorau i fynd i gampio da chi 'fyd. Haws na berwi dwr yn y tecell i neud paned, mond yn cymryd dwy funud, ac mae pawb ishe shot bach. Da fi gwahanol seisys o beirianne, ond i gyd y siap traddodiadol chweonglog na.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Ion 2007 4:20 pm

khmer hun a ddywedodd:Peiriant espresso yw'r peth gorau i fynd i gampio da chi 'fyd. Haws na berwi dwr yn y tecell i neud paned, mond yn cymryd dwy funud, ac mae pawb ishe shot bach. Da fi gwahanol seisys o beirianne, ond i gyd y siap traddodiadol chweonglog na.

Biwt o syniad! Fydd na ddim stryffaglu efo cafetiere a berwi dwr mewn padall ffrio ar y tan eleni yn Ngwersyll Cae Lleci.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron