Yn cytuno efo Jeni Wine fod Starbucks yn ddrwg! Wedi ei drio , ond mae'n llawer rhy ddrud ac yn rhy gryf! Mae lot o bobl yn licio Starbucks yma gan ei fod yn trendi i gael eich gweld efo'r cwpan S. Mae Starbucks newydd agor yma yn Comox ar yr Ynys , ond heb dyllu'r lle eto. Ac wrth gwrs , mae nhw'n bob man yn Vancouver.
Fy ffefryn i , a be dwi'n gael bob bore yw coffi Tim Hortons , efo siwgr brown a pacific cream.
Pan oeddwn yn fyfyriwr , ac wedyn pan oeddwn yn byw fy hun, doedd dim byd debyg i instant Nescafe. Hwylus iawn , ac os oedd ddim llefrith ar gael [ ac 'roedd hynny aml iawn! ] , 'roedd y llefrith powdwr yn gwneud y tro!