Gorfes teipio hwn allan dydd sul i ffrind, wel man a man rhannu fe da pawb ontife!
CAWL PANAS TWYM
1.5 OWNS O FENNYN MARG NEU OLEW
1 WINWNSIN BYCHAN
1.5 PWYS O BANAS WEDI EI DORRI YN FAN NEU SGWARIAU BYCHAN
2 LLWY DE O POWDWR CYRI
2 BEINT O STOC CYW IAR
HALEN A PHUPUR
5 OWNS O LAETH NEU HUFEN
DULL
1. FREIWCH Y WINWNSIN A’R PANAS AM 3 MUNUD MEWN SOSPAN MAWR.
2. YCHWANEGWCH Y POWDWR CYRI A CHOGINIWCH AM 2 FUNUD.
3. YCHWANEGWCH Y STOCK, HALEN A PHUPUR, A DEWCH A’R HOLL GYNWYS I’R BERW. WEDYN GORCHUDDIWCH Y CWBWL A’I ADAEL I FRWTIAN AM 45 MUNUD TAN I’R LLYSIAU DROI’N DYNER.
4. GADEWCH I OERI TIPYN AC WEDYN TROWCH YN ‘PUREE’.
5. RHOWCH I NOL I’R SOSPAN AC YCHWANEGWCH Y LLAETH.
6. YSGWYDWCH YCHYDIG PAPRIKA AR BEN Y CAWL A BWYTEWCH! HYFRYD IAWN!!!
1. Torrwch y winwns yn sleisis a ffriwch nhw mewn menyn nes bod nhw'n feddal (ond ddim yn frown)
2. Berwch 2 beint o ddwr a ychwanegwch 6 ciwb oxo cig eidion ato er mwyn creu y stoc. Ychwanegwch y stoc, pupur a 2-3 llwyed o saws worcester at y winwns.
3. Unwaith mae'n dechre berwi, mae'n barod.
Os i chi ishe, allwch chi ychwanegu farfalline (bows bach pasta) at y cawl -ma nhw'n cymryd 2-3 munud i goginio yn y cawl.
Gweinwch gyda unai crwtons (darne bach o fara wedi ffrio mewn olew) neu
rhowch sleisis o faget gyda caws wedi gratio arnyn nhw o dan y grill am gwpwl o funudau.
Torri'r llysiau.
Ffrio mymryn ar y pannas nes eu bod nhw'n feddalfrown (ond nid rhy frown).
Ychwanegu'r cennin i'r badell ffrïo.
Dwr poeth.
Stoc.
Blendar.
Cnesu yn sosban.
Buta.
Lyfli! Mae'n well gen i'r cawl yma'n drwchus, felly ychydig o ddwr fydda'i'n ei roi.
Gefais i gawl pys a ham amser cinio ddoe , a diawcs 'roedd o'n flasus
Un wedi ei wneud yn y 'slow cooker' oedd o , a digonedd ar ol i'w rewi ar gyfer pryd arall.
Mali