Cawl

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jeni Wine » Iau 04 Tach 2004 10:03 am

lleufer a ddywedodd:
aLexus a ddywedodd:cawl 'watercress' di'n ffefryn. beth yw watercress yn Gymraeg?


Watercress - Berwr y dwr/ berwr dwr/ berw dwr

:winc:


Ia, 'berw dwr', a 'cress' ydi 'berw'. Enw hyfryd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 04 Tach 2004 12:30 pm

Mali a ddywedodd:Gefais i gawl pys a ham amser cinio ddoe , a diawcs 'roedd o'n flasus :)


Sda ti resipi amdano fe?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 05 Tach 2004 11:19 am

Big Soup; Yorkie y cawliau. Lyfli.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 05 Tach 2004 11:45 am

:syniad: Mae gen i syniad :syniad:

Beth am i gymedrolwr y seiat/rhywun arall goginio'r gwahanol gawliau dros fisoedd y gaeaf a rhoi marciau allan o ddeg i'r gwahanol ryseitiau, fel hyn bydd gennym ni syniad gweddol dda a oes pwynt eu trio nhw ai peidio.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Geraint » Gwe 05 Tach 2004 11:52 am

Yr agosaf dwi di dod at gawl yn ddiweddar yw Heinz Lentil soup. Ma'n neis ddo.


:|
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dwlwen » Gwe 05 Tach 2004 11:55 am

Fi 'di cael coffi... :?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Chwadan » Maw 30 Tach 2004 2:59 pm

Cawl tomatos di'w rhostio efo pasta bach
Myglyd a blasus!

Pwys o domatos wedi eu hanneru
Un pupur coch wedi ei dorri a'i ddad-hadu
Nionyn coch wedi ei chwarteru
Ambell glofyn garlleg heb eu pilio
90g o basta bach
Tua hanner litr o stoc llysiau
Basil
Llond llwy de o siwgr

Rhowch y llysiau mewn tun rhostio, digon o olew olewydd drostynt a'u rhostio am tua 40 munud (gan eu troi ryw unwaith). Rhowch y llysiau mewn prosesydd bwyd, ychwanegwch tua hanner y stoc yna eu blendio. Wedyn defnyddio sieve i straenio'r gymysgedd i mewn i sosban ac ychwanegu gweddill y stoc a'r siwgr. Gadael iddo ddod i'r berw yna ychwanegu'r pasta bach a halen a phupur. Gadael iddo ffrwtian am tua 7-8 munud nes mae'r pasta yn barod.

:D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Jeni Wine » Maw 30 Tach 2004 5:28 pm

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd::syniad: Mae gen i syniad :syniad:

Beth am i gymedrolwr y seiat/rhywun arall goginio'r gwahanol gawliau dros fisoedd y gaeaf a rhoi marciau allan o ddeg i'r gwahanol ryseitiau, fel hyn bydd gennym ni syniad gweddol dda a oes pwynt eu trio nhw ai peidio.


Wel am syniad blasus!

Yn digwydd bod, dwi wedi bod yn bwriadu coginio'r gwahanol gawliau, ynghyd â'r resipis yn 'Be sy i swper' er mwyn eu cynnwys mewn tocyn o gyfrol ma Mihangel a fi yn bwriadu ei chyhoeddi o dan amabrel Brechdan Tywod.

Mi af ati ar f'unwaith... :P
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Fatbob » Llun 06 Rhag 2004 1:29 pm

Fy hoff gawl(ferswin fy hun) ond ma na lwythu arall sy'n werth treual yn enwedig un Escoffier(Petit Marmite).

Pot au Feu

Darn mawr o gig eidion bras
3 taten
2 banasen
3 moronen
2 geninen fach neu 1 fawr
1 winwnsyn canolig
1 erfinen
bouquet garni
halen a phupur

Rhowch y darn o gig eidion mewn sosban enfawr, ychwanegwch 12 peint o ddwr, halen a phupur a berwch y cig am tua 20 munud. Wrth iddo ferwi mi fydd scym gwyn yn dod i'r wyneb, defnyddiwch lwy i dynnu'r scym gwyn i ffwrdd. Ymhen yr 20 munud mi ddylse'r scym ddod i ben. Piliwch a thorrwch y llyse'n fras a'i hychwanegu at y gymysgedd, torrwch y cenin yn stribedi a'i clymu er mwyn i tynnu allan wedi cogino a ychwanegwch y bouquet garni. Gadewch iddo ferwi'n dawel(simmer) am 3 awr. Tynnwch y bouquet garni allan a wedyn rhowch y llysie mewn disgyl ar wahan i'r 'cawl', tynnwch y cig allan a'i dafellu.

Yfwch y cawl clear gyda croutons ffresh a chaws da cyn dechre ar y cig a'r llysie fel ail gwrs.

Ma'r cawl yn para am rhyw wsnos yn y sosban ac yn gwella wrth i'r wsnos fynd yn i flaen. :D

Ges i gawl gwych yng Ngwesty Morgan's wsnos diwetha os oes gan unrhwyun rysait debyg anfonwch neges - Cawl butternut squash da chaws gafr. (Dwi'n meddwl bod modd defnyddio pwmpen hefyd yn lle squash - hyfryd hyfryd hyfryd!)
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Mihangel Macintosh » Sul 30 Ion 2005 4:31 am

sgint? Ishe pryd llesol sy'n hawdd i'w neud?

Dyma resait glasurol ar gyfer

Cawl winwns Ffrengig

(ar gyfer 2 berson llwglyd fel pryd neu ar gyfer 4 fel starter)

Cynhwysion:
========

1 winwnsyn mawr
gwydred o win coch
litr o stoc cig eidion
saws worcester
olew olewydd neu olew llysiau

1.Torrwch y winwnsiyn yn sleisie.

2.Twymwch olew mewn sosban a ffriwch y winwns yn araf am 6 munud nes ei bod yn feddal.

3.Ychwanegwch lityr o stoc cig eidion. (defnyssiwch 2 ocso ciwb) dash o saws worcester a gwydred o win coch.

4. Gadewch i simro am 10 munud.


Gweinwch gyda chrwtons neu fara ffrengig a chaws wedi toddi drostynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron