Cawl

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Sul 06 Chw 2005 10:18 am

Dwi wrth fy modd efo Minestrone Heinz ond dwi erioed di dod ar draws rysáit i mi allu neud o fy hun. Sgan rhywun unrhyw awgrym?
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan khmer hun » Llun 07 Chw 2005 6:13 pm

Fatbob a ddywedodd:Wrth iddo ferwi mi fydd scym gwyn yn dod i'r wyneb, defnyddiwch lwy i dynnu'r scym gwyn i ffwrdd.


Iych. Sdica at y caws gafr a'r butternut squash weden i!


Gaethon ni gawl llysie neithwr, mm, mm. O'n i wedi anghofio pa mor neis yw e, a lwyddes i fyta dou lond bowlen rhwng pwffian chwerthin i Con Passionate ar teli.

Dechrau drwy ffrio garlleg, shalots, cenhinen a twtsh o chilli coch, yna cwpwl o fadarch, tipyn o stoc, puree tomato, digon o 'erbes, tatws, moron, cauli, broccoli. Fel arfer wy'n rhoi chick peas neu ryw ffa eraill ond o'dd dim da ni, so roies i bach o basta. Yna'i weini mewn bowlen fawr gron, gyda thoc o fara a chaws... x
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan Mali » Llun 28 Chw 2005 10:45 pm

A phwy sy'n mynd i gael cawl cennin yfory?
Newydd wneud peth rwan , ac mae'n rhaid deud ei fod yn edrych yn rhagorol :)
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Chwadan » Mer 13 Ebr 2005 12:00 pm

Mali a ddywedodd:A phwy sy'n mynd i gael cawl cennin yfory?
Newydd wneud peth rwan , ac mae'n rhaid deud ei fod yn edrych yn rhagorol :)
Mali.

Dwi newydd neud cawl cennin! (5 wsnos yn hwyr...:wps:)

Torrwch glamp o dysan, dau nionyn a dwy-dair cenhinen
Chwyswch nhw ar wres isel am ugain munud
Ychwanegwch sdoc
Ffrwtiwch am ugain munud
Dryswch
Ychwanegwch dipyn o laeth a halen a phupur
Cneswch
Butwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Maw 10 Mai 2005 7:55 pm

Dwi'n byta fo efo digon o bupur du. Ond ma gormod yn gneud i'r caw flasu'n rhy gry'.
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan Cawslyd » Sad 21 Mai 2005 10:56 am

Gan ein bod ni'n trafod cawls, es i i'r Eidal 'llynedd, ac mewn lle bwyta yno, ges i starter benigedig - bara wedi'i socian mewn cawl. Y peth gorau dwi di flasu erioed, dwi'n meddwl. Oes yna rywun wedi trio wbath cyffelyb? Dwi methu'n fyw a chofio enw'r pryd....
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Dai dom da » Sad 21 Mai 2005 11:19 am

Cawslyd a ddywedodd:Gan ein bod ni'n trafod cawls, es i i'r Eidal 'llynedd, ac mewn lle bwyta yno, ges i starter benigedig - bara wedi'i socian mewn cawl. Y peth gorau dwi di flasu erioed, dwi'n meddwl. Oes yna rywun wedi trio wbath cyffelyb? Dwi methu'n fyw a chofio enw'r pryd....


Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)

Ma mamgu (yr un sy'n neud cawl i ni lot fel wedes i ar dop yr edefyn) wastod yn rhoi 1-2 'sleishen' o fara miwn i'r cawl ac yn bwyta fe fel bod e'n un o'r tato neu rhwbeth. Sai byth di trual hyn ond dwi'n eitha hoffi 'dunco' bara miwn i'r cawl a wedyn ei fyta. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Cawslyd » Sul 22 Mai 2005 8:57 pm

Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)

Na, roedd y bara yn y cawl yn barod. O'n i'n meddwl mai 'tomato salad' o'n i di archebu. :wps:
Nes i drio gneud hyn adra ddoe. Torrais fara i fewn i bowlen gawl h.y. llewi o i'r top. Gneud y cawl ('Weight Watches' Tomato Soup) yn y sosban ar yr hop a wedyn ei dollti dros y bara (tra mae'r cawl yn boeth) a gadael iddo socian am ychydig funudau. A'i fwyta efo llwy. Bendigedig!
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Dai dom da » Sul 22 Mai 2005 9:15 pm

Cawslyd a ddywedodd:
Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)

Na, roedd y bara yn y cawl yn barod. O'n i'n meddwl mai 'tomato salad' o'n i di archebu. :wps:
Nes i drio gneud hyn adra ddoe. Torrais fara i fewn i bowlen gawl h.y. llewi o i'r top. Gneud y cawl ('Weight Watches' Tomato Soup) yn y sosban ar yr hop a wedyn ei dollti dros y bara (tra mae'r cawl yn boeth) a gadael iddo socian am ychydig funudau. A'i fwyta efo llwy. Bendigedig!


Cwl! Bydd rhaid fi drual hwnna rywbryd. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Mali » Maw 31 Mai 2005 3:43 pm

Dros y penwythnos ,mi gesh i gawl nad oeddwn erioed wedi ei drio o'r blaen....cawl oer afocado. :x Do, mi orffenais y cawl yn ara deg ac yn gwrtais, ond wnês i ddim gofyn wrth fy ffrind am y risaet .
Ych!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron