Gan ei bod hi'n oerach na oergell oer y tu allan, dwi wedi penderfynu dechra edefyn newydd am gawls.
Oes gan unrhyw risets sgrymi i'w cyfrannu?
Dyma un pisopus i ddechra cychwyn:
CAWL BROCOLI A STILTON CNESOL
*Stemio llwyth o frocoli (gan ofalu peidio eu gorwneud)
*Eu drysu nhw i gyd mewn peiriant drysu nes eu bod yn sdwnsh gwyrdd glyb (mmm!)
*Rhoi'r sdwnsh snotlyd mewn sosban fawr efo wejan o fenyn Eifion
*Ychwanegu faint bynnag o giwbs OXO llysia sydd ei angan a dwr poeth
*Ychwanegu cornflour i dwchu a digon a halan a phupur
*Berwi'r cwbwl am hyyydoedd
*Ychwanegu'r caws glas fesul tipyn a'i gymysgu'n dda
Gweinwch y cawl mewn powlenni isel efo bara graneri ffresh (neith "ffresh ddoe" mo'r tro) a digonadd o fenyn Eifion