Cawl

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sleepflower » Iau 12 Chw 2004 10:40 am

Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan bartiddu » Iau 26 Chw 2004 6:35 pm

Gorfes teipio hwn allan dydd sul i ffrind, wel man a man rhannu fe da pawb ontife!

CAWL PANAS TWYM


1.5 OWNS O FENNYN MARG NEU OLEW

1 WINWNSIN BYCHAN

1.5 PWYS O BANAS WEDI EI DORRI YN FAN NEU SGWARIAU BYCHAN

2 LLWY DE O POWDWR CYRI

2 BEINT O STOC CYW IAR

HALEN A PHUPUR

5 OWNS O LAETH NEU HUFEN


DULL

1. FREIWCH Y WINWNSIN A’R PANAS AM 3 MUNUD MEWN SOSPAN MAWR.

2. YCHWANEGWCH Y POWDWR CYRI A CHOGINIWCH AM 2 FUNUD.

3. YCHWANEGWCH Y STOCK, HALEN A PHUPUR, A DEWCH A’R HOLL GYNWYS I’R BERW. WEDYN GORCHUDDIWCH Y CWBWL A’I ADAEL I FRWTIAN AM 45 MUNUD TAN I’R LLYSIAU DROI’N DYNER.

4. GADEWCH I OERI TIPYN AC WEDYN TROWCH YN ‘PUREE’.

5. RHOWCH I NOL I’R SOSPAN AC YCHWANEGWCH Y LLAETH.

6. YSGWYDWCH YCHYDIG PAPRIKA AR BEN Y CAWL A BWYTEWCH! HYFRYD IAWN!!!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 26 Hyd 2004 2:19 pm

wedi bod yn byw ar hwn ers dyddie nawr - yn rhad iawn ac yn flasus!

CAWL WINWNS FFRENGIG

Ar gyfer 2 neu 3 o bobl

Cynhwysion:

4 Winwnsyn
Menyn
6 ciwb oxo cig eidion
Saws Worcester
Pupur

1. Torrwch y winwns yn sleisis a ffriwch nhw mewn menyn nes bod nhw'n feddal (ond ddim yn frown)

2. Berwch 2 beint o ddwr a ychwanegwch 6 ciwb oxo cig eidion ato er mwyn creu y stoc. Ychwanegwch y stoc, pupur a 2-3 llwyed o saws worcester at y winwns.

3. Unwaith mae'n dechre berwi, mae'n barod.

Os i chi ishe, allwch chi ychwanegu farfalline (bows bach pasta) at y cawl -ma nhw'n cymryd 2-3 munud i goginio yn y cawl.

Gweinwch gyda unai crwtons (darne bach o fara wedi ffrio mewn olew) neu
rhowch sleisis o faget gyda caws wedi gratio arnyn nhw o dan y grill am gwpwl o funudau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Maw 26 Hyd 2004 2:43 pm

CAWL CENNIN A PHANNAS

Torri'r llysiau.
Ffrio mymryn ar y pannas nes eu bod nhw'n feddalfrown (ond nid rhy frown).
Ychwanegu'r cennin i'r badell ffrïo.
Dwr poeth.
Stoc.
Blendar.
Cnesu yn sosban.
Buta.

Lyfli! Mae'n well gen i'r cawl yma'n drwchus, felly ychydig o ddwr fydda'i'n ei roi.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Dai dom da » Maw 26 Hyd 2004 2:47 pm

Cawl mamgu yw'r gore, enwedig pan fod darnau bach o bacwn ynddo fe. Digon o tato,sprowts a moron. Nice. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Cawslyd » Maw 26 Hyd 2004 3:00 pm

Dai dom da a ddywedodd:Cawl mamgu yw'r gore, enwedig pan fod darnau bach o bacwn ynddo fe. Digon o tato,sprowts a moron. Nice. 8)

Swnio'n flasus iawn. Mmm.. Cawl. 8)
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan lleufer » Maw 26 Hyd 2004 9:51 pm

Di gwneud cais eithaf llwyddianus unwaith ar wneud cawl danadl/dail poethion.
Rhaid dweud ei fod yn anghyffredin o dda, tebyg i saws parsli hufenog.

Ond wedi dweud hynny roeddwn i'n ddiawledig o dlawd ac yn llwgy :?

Hoffi moron a coriandyr...mmmmm :winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan aLexus » Maw 26 Hyd 2004 10:46 pm

cawl 'watercress' di'n ffefryn. beth yw watercress yn Gymraeg? swnio'n gawl diawledig o ddiflas... ond mmmm mae'n lyfli onest.
we must memorise nine numbers and deny we have a soul
Rhithffurf defnyddiwr
aLexus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 394
Ymunwyd: Maw 07 Medi 2004 11:34 am
Lleoliad: rhywle rhwng bae a bro

Postiogan lleufer » Mer 27 Hyd 2004 5:37 am

aLexus a ddywedodd:cawl 'watercress' di'n ffefryn. beth yw watercress yn Gymraeg?


Watercress - Berwr y dwr/ berwr dwr/ berw dwr

:winc:
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Mali » Mer 03 Tach 2004 7:26 pm

Gefais i gawl pys a ham amser cinio ddoe , a diawcs 'roedd o'n flasus :)
Un wedi ei wneud yn y 'slow cooker' oedd o , a digonedd ar ol i'w rewi ar gyfer pryd arall.
Mali
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron