Tudalen 1 o 8

Cawl

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 2:41 pm
gan Jeni Wine
Gan ei bod hi'n oerach na oergell oer y tu allan, dwi wedi penderfynu dechra edefyn newydd am gawls.

Oes gan unrhyw risets sgrymi i'w cyfrannu?

Dyma un pisopus i ddechra cychwyn:

CAWL BROCOLI A STILTON CNESOL


*Stemio llwyth o frocoli (gan ofalu peidio eu gorwneud)

*Eu drysu nhw i gyd mewn peiriant drysu nes eu bod yn sdwnsh gwyrdd glyb (mmm!)

*Rhoi'r sdwnsh snotlyd mewn sosban fawr efo wejan o fenyn Eifion

*Ychwanegu faint bynnag o giwbs OXO llysia sydd ei angan a dwr poeth

*Ychwanegu cornflour i dwchu a digon a halan a phupur

*Berwi'r cwbwl am hyyydoedd

*Ychwanegu'r caws glas fesul tipyn a'i gymysgu'n dda


Gweinwch y cawl mewn powlenni isel efo bara graneri ffresh (neith "ffresh ddoe" mo'r tro) a digonadd o fenyn Eifion

Cawl ffa eidalaidd

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 3:24 pm
gan Clarice
Cawl ffa eidalaidd

Ffrio winwnsyn gyda llawer o bersli (y math gyda dail fflat) mewn olew am ryw ddeng munud

Ychwanegu ffa cannelini (mas o dun) gan gadw'r hylif o'r tun ar y naill ochr

Stwnsho rhywfaint o'r ffa er mwyn twchu'r cawl

Ychwanegu rhywfaint o'r hylif o'r tun er mwyn cael mymryn o hylif yn y cawl

Ei weini gan ychwanegu parmesan ac olew olewydd (extra virgin) a digon o halen

Mae'n gawl ofnadw o dew ac ofnadw o flasus. Ac yn hawdd ac yn sydyn i'w wneud.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 3:32 pm
gan mul
smoked haddock chowder

agor y carton ei dollti mewn i sosban a'i gynhesu.
bron cystal a ready brek am fod yn botel dwr poeth mewnol.

baswn i'n ychwanegu'r recipe - ond mae'r hawlfraint gan covent garden co.

mmmmmmmm.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 3:48 pm
gan mam y mwnci
Moron a corgette (Swni'n hyll ond mae on bwdiffwl)

Frio'r moron ar corgettes efo talp reit dda o fenyn am tua 15 munud.

Ychwanegu dwr, per lysiau, halen a phupur , Llwyad o siwgr brown, llwy bwdin a pure tomato a deilen Bay

mud-ferwi am rhyw 30 munud.
Tynnu'r ddeilen bay

a drysu'r cyfan

LLwyad o hufen ar ei ben cyn ei weini yn lush, neu ei fwyta gydag brechdan gaws.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 5:56 pm
gan Cynan Bwyd
no offence de ond dwin casau cawl!! be di pwynt rhoi cinio dydd sul mewn dwr? maen ei sbwilio!

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 9:23 pm
gan Wierdo
ym garlic an mushroom di'r gora dwi di neud...myn cofio sut ddo!!! Ma genani lyfr fo cwal siocled yn y fo!!! IYM.....dwin meddwl :? :lol:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 10:29 pm
gan Nick Urse
Sglyfbeth llysnafeddog 'di cawl.

Tasach chi'n newid yr 'L' am 'N' mi fasa'n creu anagram addas.
:?

Ych.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 9:25 pm
gan Wierdo
Tasach chi'n newid yr 'L' am 'N' mi fasa'n creu anagram addas.

nath hwna gymryd chydig o funuda i sincio mewn!!!

dwim yn berson cawl man rhaid mi gyfadda...ond dwim yn ei gasau o

PostioPostiwyd: Sad 31 Ion 2004 12:08 am
gan Leusa
Cynan Llwyd a ddywedodd:no offence de ond dwin casau cawl!! be di pwynt rhoi cinio dydd sul mewn dwr? maen ei sbwilio!

aha! Dani wedi cael y ddadl yma o'r blaen yn rwla. Ma'r 'cawl' ti'n son amdano yn cyfeirio at ein 'lobsgows' ni neu 'potes' rhywun arall, sef darnau o lysiau a chig [weithiau] mewn stoc!
Ond ma'r cawl yn y teitl yn cyfeirio tuag at gawl yn gyffredinol, sef soup.
Cywirwch fi os 'dw i wedi neud cawl o bethau fama!

PostioPostiwyd: Sad 31 Ion 2004 5:21 am
gan Lowri Fflur
Ma mam fi' n neud cawl georgeous a nain fi blaw am huna dwi' m yn licio fo