Cymedrolwr: Jeni Wine
Fatbob a ddywedodd:Wrth iddo ferwi mi fydd scym gwyn yn dod i'r wyneb, defnyddiwch lwy i dynnu'r scym gwyn i ffwrdd.
Mali a ddywedodd:A phwy sy'n mynd i gael cawl cennin yfory?
Newydd wneud peth rwan , ac mae'n rhaid deud ei fod yn edrych yn rhagorol
Mali.
Cawslyd a ddywedodd:Gan ein bod ni'n trafod cawls, es i i'r Eidal 'llynedd, ac mewn lle bwyta yno, ges i starter benigedig - bara wedi'i socian mewn cawl. Y peth gorau dwi di flasu erioed, dwi'n meddwl. Oes yna rywun wedi trio wbath cyffelyb? Dwi methu'n fyw a chofio enw'r pryd....
Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)
Cawslyd a ddywedodd:Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)
Na, roedd y bara yn y cawl yn barod. O'n i'n meddwl mai 'tomato salad' o'n i di archebu.
Nes i drio gneud hyn adra ddoe. Torrais fara i fewn i bowlen gawl h.y. llewi o i'r top. Gneud y cawl ('Weight Watches' Tomato Soup) yn y sosban ar yr hop a wedyn ei dollti dros y bara (tra mae'r cawl yn boeth) a gadael iddo socian am ychydig funudau. A'i fwyta efo llwy. Bendigedig!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai