Cawslyd a ddywedodd:Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)
Na, roedd y bara yn y cawl yn barod. O'n i'n meddwl mai 'tomato salad' o'n i di archebu.
Nes i drio gneud hyn adra ddoe. Torrais fara i fewn i bowlen gawl h.y. llewi o i'r top. Gneud y cawl ('Weight Watches' Tomato Soup) yn y sosban ar yr hop a wedyn ei dollti dros y bara (tra mae'r cawl yn boeth) a gadael iddo socian am ychydig funudau. A'i fwyta efo llwy. Bendigedig!
Ffac, we ti'n iawn fyd Cawslyd - ma fe'n fendigedig whareteg!
Nes i drual e mas dwe amser cino, gyda heinz tomato swp (y ffefryn).
Un peth wedd yn neis iawn amdano fe, we phan nes i fwyta'r bara ar ol iddo cael ei socian yn y swp. Wedd e'n blasu fel te bod y bara wedi cwcan tamed, a hefyd yn atgoffa fi o ryw stwff hyn gatho ni yn ysgol gynradd lle we ni'n socian sleishen o fara mewn llaeth, ac wedyn ffreio'r bara mewn ffreipan. Dyma beth we pobol neu soldiyrs yn byta yn y rhyfel byd cyntaf neu rhwbeth. Eniwei, diolch am y syniad Cawslyd!