gan Mr Groovy » Iau 15 Medi 2005 4:08 pm
Gan fod hi'n rêl tywydd cawl heddi on i'n meddwl licech chi weld y berl yma gan Dic Jones yn Golwg heddi
CAWL (Ceir ryseitiau ar gyfer popeth bron - ond cawl)
Berwa dy gig yn y bore - yna dod
Dy datws a'th lysie,
Toc o fara gydag e
A chaws - beth mwy chi eisie?
Oooo Dic, ti yw'r dyn.