Tudalen 6 o 8

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2005 3:51 pm
gan Dai dom da
Mali a ddywedodd:Dros y penwythnos ,mi gesh i gawl nad oeddwn erioed wedi ei drio o'r blaen....cawl oer afocado. :x Do, mi orffenais y cawl yn ara deg ac yn gwrtais, ond wnês i ddim gofyn wrth fy ffrind am y risaet .
Ych!


:ofn: Yrghh.....er bo fi ddim wedi trial y cawl avocado na, ma fe dal yn swno'n rong i fi! Cawl oer? :?

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2005 4:10 pm
gan Mali
Wedi cael cip olwg ar dudalen Dudley jyst i weld os oedd risaet yno ar gyfer cawl oer ......yn enwedig i ti Dai :)
Dyma fo :
Cawl ciwcymbr, garlleg a iogwrt!
http://www.s4c.co.uk/dudley/rm/view_rec ... guage/wel/

PostioPostiwyd: Sul 12 Meh 2005 8:01 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Mae gan y "Gallery Coffee Shop" yn y Bontfaen gawl ANDROS o flasus... Pys a Mintys...o'dd o'n edrych yn ddiawledig, ond iym, mi oedd o'n dda.... :D

PostioPostiwyd: Sul 12 Meh 2005 9:29 pm
gan Dai dom da
Cawslyd a ddywedodd:
Dai Dom Da a ddywedodd:Bara wedi'i socian mewn cawl? Swno'n ddiddorol, so a wedd rhaid i ti fyta'r bara yn y cawl neu a oedden nhw'n rhoi'r bara ar wahan? (ar blat neu rhwbeth)

Na, roedd y bara yn y cawl yn barod. O'n i'n meddwl mai 'tomato salad' o'n i di archebu. :wps:
Nes i drio gneud hyn adra ddoe. Torrais fara i fewn i bowlen gawl h.y. llewi o i'r top. Gneud y cawl ('Weight Watches' Tomato Soup) yn y sosban ar yr hop a wedyn ei dollti dros y bara (tra mae'r cawl yn boeth) a gadael iddo socian am ychydig funudau. A'i fwyta efo llwy. Bendigedig!


Ffac, we ti'n iawn fyd Cawslyd - ma fe'n fendigedig whareteg! :D Nes i drual e mas dwe amser cino, gyda heinz tomato swp (y ffefryn). 8) Un peth wedd yn neis iawn amdano fe, we phan nes i fwyta'r bara ar ol iddo cael ei socian yn y swp. Wedd e'n blasu fel te bod y bara wedi cwcan tamed, a hefyd yn atgoffa fi o ryw stwff hyn gatho ni yn ysgol gynradd lle we ni'n socian sleishen o fara mewn llaeth, ac wedyn ffreio'r bara mewn ffreipan. Dyma beth we pobol neu soldiyrs yn byta yn y rhyfel byd cyntaf neu rhwbeth. Eniwei, diolch am y syniad Cawslyd!

PostioPostiwyd: Iau 15 Medi 2005 4:08 pm
gan Mr Groovy
Gan fod hi'n rêl tywydd cawl heddi on i'n meddwl licech chi weld y berl yma gan Dic Jones yn Golwg heddi

CAWL (Ceir ryseitiau ar gyfer popeth bron - ond cawl)

Berwa dy gig yn y bore - yna dod
Dy datws a'th lysie,
Toc o fara gydag e
A chaws - beth mwy chi eisie?

Oooo Dic, ti yw'r dyn.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Medi 2005 11:43 am
gan PwdinBlew
Stiw lentils a cig moch

Ffrio 1 nionyn a 2 fwlb o garlleg a'r cig moch (tua 5 rasher) mewn olew olewydd yn ARAF IAWN!! nes mae'r nionyn wedi troi yn slwj

Ychwanegu moron (wedi ei blicio a'i sleisio) a seleri. A ffrio am 15 mins (yn araf eto!!)

Ychwenegu 3/4 potel o win coch, lentils a sdoc llysia. Rhoi caead am ei ben ai rhoi mewn ffwrn 150 gradd am tua tri chwarter awr, neu tan mae'r lentils wedi amsugnu yr hylif i gyd.

Cymysgu i fewn perlysia cymysg a syrfio efo bara menyn.

Diom yn edrych fel y peth neisia ond mae on lysh

PostioPostiwyd: Maw 27 Medi 2005 8:57 am
gan Mihangel Macintosh
Nes i gael cawl tomato yn nhy Sleepflower neithiwr - oedd na llwyth o Chili ynddo fe ac oedd e jyst be o ni angen ar ol bod mas yn y glaw a'r gwynt ar Fanau Brycheiniog.

Sleepflower - os da ti'r resait i hwn?

PostioPostiwyd: Maw 27 Medi 2005 11:56 am
gan PwdinBlew
Yn ol Sl

PostioPostiwyd: Maw 27 Medi 2005 3:33 pm
gan Sleepflower
Fi - :wps: :wps: :wps: :wps:

Digon am 8 bowlen

5 x shilots wedi torri lan
4 x clofen o arlleg
3 x tin o domatos
Bach o bast tomato
1.5 litr o stoc llysiau.
2 x llyw de o bast tsili
2 x llyw fwrdd goriandyr wedi masho lan.
2x llwy fwrdd o fasil

1. Ffriwch y garlleg mewn olew, mewn crochen fawr mabinogiaidd, ar wres gymhedrol, cyn ychwanegu

PostioPostiwyd: Mer 28 Medi 2005 9:29 am
gan Dili Minllyn
Dwi'n hoffi iawn o gawl clir yn y dull Iddewig efo kneidlach (dwmplins). (Mae sawl rys