Tudalen 7 o 8

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 4:57 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Reit, dyma fy rysait i ar gyfer cawl traddodiadol cig oen. O'n i'n meddwl postio'r peth er mwyn gweld pa bethe gwahanol ma' pobl yn neud ac a ydw i'n gableddwr o fri...

Digonedd i gig oen gwddf
1 winwnsyn mawr
5/6 taten fawr
4 cenhinen
3 panasen
3 moronen
1 erfinen
(s'dim unrhyw reol am hyn, wrth gwrs)
Parsli ffres

Cynheswch olew olewydd mewn sosban fawr, a ffriwch eich winwnsyn yn araf am gwpwl o funudau. Rhwbiwch halen ar y cig a'i ychwanegu, gan ei frownio ar dymheredd ychydig yn uwch nes bod yr holl liw pinc wedi mynd. Gorchuddiwch

PostioPostiwyd: Maw 21 Chw 2006 11:53 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
wedi gweld sawl cawl fo pannas ma on heb weld un fel nes i ddoe!

Cawl Pannas ac Afal

(ddim am roi faint o'r cynhwysion chos mae'n dibynnu ar eich blas personnol a maint y llysiau / ffrwythau - diom rili ots eniwe)

nionyn (ddoe nesi i iwsho 3)
pannas (ddoe odd genai 4 ond odda nhw'n hiwj!)
fala cwcio (oedd genai 3 o feintia gwahanol ddoe - dibynnu faint o flas afal da chi'n licio)
stoc llysiau (ddoe iwshish i 2 fo lot llai o ddwr na ddylwn i - dybynnu pa mor wlyb da chi'n licio'ch cawl)
halen a phupur
garlleg (ddoe nesi i iwshio 1 "clove" (be di hynny'n gymraeg?!))

1. torri'r nionyn a'i roi ar tan fo chydig o olew.
2. torri (a phlicio)'r pannas a'u hychwanegu i'r sosban at y nionod
3. rhoi stoc a dwr - all fod yn ciwb ne stoc go iawn - llysia, moron ne pys ne wbath (dibynnu pa mor lyb da chi'n licio'ch cawl, nes i'm rhoi digon ar y sdej ma ddoe - drodd y cawl allan fel stwnsh - felly fues i'n ychwanegu dwr wedyn)
4. torri a phlicio'r fala a'i ychwanegu i'r sosban (roish i un afal mewn a gneud stiw fo gweddill y fala ond nesi ychwanegu'r stiw i gyd yn diwadd - dibynnu pa mor felys da chi'n licio'ch cawl)
5. rhoi chydig o halen a phupur a garlleg fel y mynnwch (gwyliwch roi gormod o halen os da chi'n iwsho ciwbia stoc gall droi allan yn hallt)

6. berwi'r cwbwl am tua 20 munud (nes ma'r pannas yn edrych yn barod h.y. meddal)
7. blendio fo'i gyd (pan flenish i fu'n i ddoe nesi ffeindio fod o tha stwnsh felly fues i'n ychwanegu dwr iddo fo, well geani gawl rhu dew na rhu dena)

mae'r belndio yn bwysig fyd, dwi'n licio ambell i chuncks di pobl erill ddim.

na fo mwynhewch!

wedi rhewi hanner hyn nesi ddoe, odd na lods na!! digon am sawl swper blasus arall! iym!

PostioPostiwyd: Maw 11 Ebr 2006 11:11 am
gan fREUd
Plis all rhywun argymell sut i wneud cawl Butternut Squash ac oren.MMMMMM Wedi ei flasu rhywdro a methu'n glir a chael hyd i rysait yn unman. deud y gwir, oes gan rhywun tips da ar sut i gogino butternut rhost - be iw roi ynddo fo etc etc. diolch

PostioPostiwyd: Gwe 21 Gor 2006 6:03 pm
gan Jon Bon Jela
Blessaður!

Dw i wedi cyrraedd Gwlad yr Iâ o´r diwedd a dwi´n cymryd rhan mewn prosiect gwirfoddoli lle mae gofyn inni goginio pryd o fwyd o´n gwledydd ni.

Oes gan rywun rysait syml a blasus ar gyfer cawl cig oen? Neu unrhyw bryd Cymreig o ran hynny i force-feedo´r blydi Sowth Koreans sy´n rhannu yr un dorm â fi?

PostioPostiwyd: Iau 21 Medi 2006 5:17 pm
gan Jeni Wine
HWRE! Mae'n dymor gwneud cawls unwaith eto!!

Nes i neud cawl hyfryd pyfryd nosonoblaen o lyfr rysetiau Cranks. Swnio'n debyg i rysait Pwdin Blew. Wnim am hwnnw ond mi fedrai eich sicrhau fod hwn yn fendigeidfran o fendigedig... :P

CAWL LENTILSBEISLYD

Moron wedi eu torri yn chwarteri cymharol fan
Seleri wedi eu torri yn sleisys cymharol fan
Nionyn mawr wedi ei dorri yn fan
4 darn o arlleg
Hanner carton o Passata
Stoc llysha
Hanner tun o lefrith coconut
2 lwy fwrdd o bowdr cyrri
Llond llwy de o goriander man
Lentiliau coch/gwyrdd
Parsli/Coriander fresh
Halen a phupur

Cogino'r llysha nes mae nhw'n feddal
Ychwanegu'r garlleg a'r sbeisys
Ychwanegu'r passata/stoc/lentiliau
Rhoi caead ar ei ben a mudferwi am 20 munud
Tynnu oddi ar y gwres ac ychwanegu'r llefrith coconut

*Gwenir gyda pharsli neu goriander ffresh, bara soda (oes term Cymraeg am bara soda?) a menyn Cadog*

PostioPostiwyd: Iau 21 Medi 2006 5:20 pm
gan Mihangel Macintosh
...allai eich sicrhau chi fod e'n flasus iawn... [/gweoglun llyffi gweflau]

PostioPostiwyd: Gwe 22 Medi 2006 8:30 pm
gan Dili Minllyn
Wedi cael cawl sbinais (neu sbigoglys i'r puryddion) gwych dros y Sul ar sail hen rysáit mam-gu (er na fasai hi wedi defnyddio prosesydd bwyd, debyg).

Torrwch daten fawr yn fân, a'r un peth efo wynwn (nionyn). Ffrïwch y daten a'r wynwn yn ysgafn mewn ychydig o fenyn mewn sosban (hytrach na ffrimban), nes 'bod nhw’n dechrau meddalu. Ychwanegwch llond bag o sbinais ffres wedi'i olchi a'u dorri'n weddol fân, a choginio'r cyfan am ryw bum munud arall.

Tynnwch y sosban oddi ar y fflâm. Ychwanegwch ychydig o flawd i sugno'r sudd, a'i gymysgu'n dda. Rhowch hanner peint o stoc i mewn a berwch y cyfan nes bod y cymysgedd yn tewhau. Tynnwych y sosban oddi ar y gwres eto, a ychwanegwch beint o laeth tew yn ofalus, gan droi'r cymysgedd trwy'r amser. Gallwch chi hefyd roi halen a phupur i mewn nawr os dymunwch chi.

Rhowch y sosban yn ôl ar y fflâm a mudferwi'r cawl am ryw chwarter awr. Wedi iddo fe oeri rywfaint, rhowch y cyfan trwy'r prosesydd bwyd i gael cawl llyfn, cyn ei ail-dwymo'n ofalus.

Mae'n cyd-fynd yn dda efo bara Ffrengig.

PostioPostiwyd: Sul 24 Medi 2006 12:14 pm
gan Dili Minllyn
Yn dilyn yr uchod, dwi wedi gwella'r blas yn sylweddol trwy gymysgu dyrnaid mawr o gaws cryf tua'r diwedd, fel Caws Collier's neu Gaws Rhagorol Cadog.

PostioPostiwyd: Iau 05 Hyd 2006 12:51 pm
gan gwallt blonde
Newydd gael Cup a soup - mediterranean Tomato - mae'n hyfyrd!!!!

PostioPostiwyd: Iau 05 Hyd 2006 2:14 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dili Minllyn a ddywedodd:Yn dilyn yr uchod, dwi wedi gwella'r blas yn sylweddol trwy gymysgu dyrnaid mawr o gaws cryf tua'r diwedd, fel Caws Collier's neu Gaws Rhagorol Cadog.


Newydd argraffu dy rysait, Dili, ond wy'n credu y bydda' i'n osgoi sbigoglys o UDA!