Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Rhys a ddywedodd:Ymwelwch â Regulars Reunited
Gwych o wefan! Ond s'dim aelodau ar gyfer yr Ivor Arms na'r Tredegar Junction, a dyw'r Bird in Hand (un o dafarndai lleiaf Cymru, siworli) ddim hyd yn oed 'na...
Wedi ceisio mynd i'r Bird in Hand sawl tro yn ystod y dydd, yn bennaf i'w cymeradwyo am eu harwydd 'Croeso i'r Aderyn', ond nid yw'n ymddangos ei fod ar agor tan y nos, er daeth glamp o Dalmation mawr cyfeillgar i'r golwg o rywle.
Geraint a ddywedodd:Ond di bod i'r Park Vaults unwaith efo Rhys. Mi wnath hen foi mynu dewis un o fy nghaneuon ar y jiwc bocs (dewisodd o Daydream Believer), a triodd hen fenyw cael mi i ddawnsio i rhyw gan ska Ond lle da.
Mae'n amhosib ymweld â'r dafarn yma heb gwrdd a rhywun sydd braidd yn 'wahanol'. Anwybyddwch dafarndai plastic diflas canol y dref (oni bai am y Bwch) a gwariwch pob awr sbar sydd gyda chi yn yfed chwerw a seidr cryfion y Park Vaults Wnewch chi byth ddyfaru