Tafarn gorau Cymru?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Lletwad Manaw [gynt] » Maw 06 Gor 2004 9:20 am

Clive Arms!!!!!! Am dwll os weles i dwll erioed!!!! Un or llefydd tafarndai mwya anghroesawgar dwi wedi bod ynddo erioed. yn enwedig pam ma stop tap yn dod tua 10.15!!!! :drwg: Duke of Clarence yn llawer gwell!!!! Y tafarn hynny yw :?
BETH AM BOBI FASNED O DE!!!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lletwad Manaw [gynt]
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 257
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 12:46 pm
Lleoliad: Falle draw fynco rhywle.........

Postiogan Rhydfryd II » Sad 10 Gor 2004 9:47 pm

Gorau (un no particiwlar ordar)::
Yr Hen Llew Du, Aberystwyth;
Y Glôb, Bangor;
Downies Vaults, Aberystwyth;
Black Lion, Derwen Las;
Mochyn Du, Caerdydd;
Glengower Hotel, Aberystwyth;
Patricks, Bangor;
Unrhyw 'O'Neills'

Gwaethaf (un no particiwlar ordar):
Vale of Rheidol, Aberystwyth;
Unrhyw 'JD Wetherspoons'
Lot o'r 'Students Unions'

a.y.y.b.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhydfryd II
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 10 Gor 2004 9:20 pm
Lleoliad: Easter Island

Postiogan garynysmon » Sul 11 Gor 2004 12:06 am

Rhydfryd II a ddywedodd:Unrhyw 'JD Wetherspoons'
Lot o'r 'Students Unions'

a.y.y.b.


Weatherspoons? :ofn:
Cytuno am y Student Unions, un Bangor yn crap. Licio un Aber ddo.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 11 Gor 2004 12:28 am

George III Hotel, Penmaenpool (enw crap, safle perffaith)
Stag (fel yr oedd, nid fel y mae... felly yn ei le, ar ran Dolgellau... Y Torrent(ochr hen bobol, to isal))
Angylsi
Ring (peidiwch gwylio'r fideo, na, plis)
Albany, Rhath
Tut and Shive, Rhath
Hawardian Club, Sblot
Kings Head, Llangenith
Flora a New Ely (cyn iddyn nhw ddistroio'r basdads)
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Lowri » Sul 11 Gor 2004 1:29 pm

Outback Caerfyrddin!!! = Brilliant!! Awyrgylch ffantastig na!!!
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan Llewelyn Richards » Llun 12 Gor 2004 3:07 pm

Nwdls sydd gan y rhestr agosaf i fy un i. Newydd ddarganfod yr Albany - lle da i guddio a chael oldeiar hamddenol.

Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 12 Gor 2004 3:15 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?


Nag oes, gan mai ti yw'r unig berson sydd ddim yn feicar/metaller gyda pheth wmbreth o datoos a dannedd coll sy'n hoff o'r lle... wel, na, mae'n iawn, sbo...

Ategaf Tut 'n' Shive, a chefais y pleser tua tair wthnos nôl o beint o Guinness ar wal yr Angylsi, gyda'r haul yn machlud dros y Fenai... Biwt 8)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Clarice » Llun 12 Gor 2004 3:34 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?


Nag oes, gan mai ti yw'r unig berson sydd ddim yn feicar/metaller gyda pheth wmbreth o datoos a dannedd coll sy'n hoff o'r lle... wel, na, mae'n iawn, sbo...


Ahem....wy'n eitha hoff o'r lle..a sa i'n beicar...a'r tro dwetha' nes i edrych rodd fy nannedd i i gyd dal yna. :D
Ond ges i brofiad rhyfedd yna unwaith.
Es i a chwpwl o ffrindie i iste yn y gornel lle ma'r bobol dannedd coll yn crynhoi. Nath rhyw fenyw ddechre gweiddi arna i "You shouldn't speak Welsh, it's rude". Ond o fewn cwpwl o funude nath hi newid ei meddwl a dweud pa mor wych odd clywed Cymraeg, a mynnu cofleidio fi cyn bo fi'n gadael. Wy'n credu bod ganddi "broblemau". :?
Ta beth, wy'n eitha' lico mynd yna cyn ac ar ol geme cartre Cymru. Mae na awyrgylch dda 'na a ma peint yn rhad. A mae'n eitha da bod tafarn spit'nsawdust fel'na yn gallu para ynghanol y dre.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Llun 12 Gor 2004 3:52 pm

Clarice a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?


Nag oes, gan mai ti yw'r unig berson sydd ddim yn feicar/metaller gyda pheth wmbreth o datoos a dannedd coll sy'n hoff o'r lle... wel, na, mae'n iawn, sbo...


Ahem....wy'n eitha hoff o'r lle..a sa i'n beicar...a'r tro dwetha' nes i edrych rodd fy nannedd i i gyd dal yna. :D
Ond ges i brofiad rhyfedd yna unwaith.
Es i a chwpwl o ffrindie i iste yn y gornel lle ma'r bobol dannedd coll yn crynhoi. Nath rhyw fenyw ddechre gweiddi arna i "You shouldn't speak Welsh, it's rude". Ond o fewn cwpwl o funude nath hi newid ei meddwl a dweud pa mor wych odd clywed Cymraeg, a mynnu cofleidio fi cyn bo fi'n gadael. Wy'n credu bod ganddi "broblemau". :?
Ta beth, wy'n eitha' lico mynd yna cyn ac ar ol geme cartre Cymru. Mae na awyrgylch dda 'na a ma peint yn rhad. A mae'n eitha da bod tafarn spit'nsawdust fel'na yn gallu para ynghanol y dre.


Dwi'n hoff o'r hen Park Vaults hefyd. Yn wir mae yna fobl digon odd yna, ond mae'n gwneud y lle'n fwy diddorol. Roedd boi tu ol bar yn siarad Cymraeg yno pan es yno tro cyn diwethaf, o Flaenau Ffestioniog.

Rioed wedi bod i'r Duke of Clarence er fy mod yn byw'n weddol agos, ondn wedi bod i Clive Arms a phobl wastad yn glen.

Hoffi'r Claude ar ddiwrnod gem

Ym Mangor mi o'n i'n hoffi'r Glob a'r Belle View.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Llun 12 Gor 2004 4:26 pm

O'n i'n arfer bod yn selog (na, selog wedes i) yn yr Albany.

Fel arall, fel dw i 'di dweud lawer tro, y Ring, Llanfrothen.
Does na'm tafarn arall yn ei gyffwrdd. Pobol hyfryta' a'r doniola'n bod.

Yna, y Sloop ym Mhorthgain.
Llwyngwair, Trefdraeth.
Blac Boi, Cnarfon.
Twnti, Pen Llyn.
Talbot, Tregaron.
Grapes, Maentwrog.
Cwps, Aber.
Rummers, Aber.

Allwn i fynd mlaen am oes...
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

NôlNesaf

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron