Cymedrolwr: Jeni Wine
Rhydfryd II a ddywedodd:Unrhyw 'JD Wetherspoons'
Lot o'r 'Students Unions'
a.y.y.b.
Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?
Nag oes, gan mai ti yw'r unig berson sydd ddim yn feicar/metaller gyda pheth wmbreth o datoos a dannedd coll sy'n hoff o'r lle... wel, na, mae'n iawn, sbo...
Clarice a ddywedodd:Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Llewelyn Richards a ddywedodd:Rhywun di son am spit'n sawdust Park Vaults?
Nag oes, gan mai ti yw'r unig berson sydd ddim yn feicar/metaller gyda pheth wmbreth o datoos a dannedd coll sy'n hoff o'r lle... wel, na, mae'n iawn, sbo...
Ahem....wy'n eitha hoff o'r lle..a sa i'n beicar...a'r tro dwetha' nes i edrych rodd fy nannedd i i gyd dal yna.
Ond ges i brofiad rhyfedd yna unwaith.
Es i a chwpwl o ffrindie i iste yn y gornel lle ma'r bobol dannedd coll yn crynhoi. Nath rhyw fenyw ddechre gweiddi arna i "You shouldn't speak Welsh, it's rude". Ond o fewn cwpwl o funude nath hi newid ei meddwl a dweud pa mor wych odd clywed Cymraeg, a mynnu cofleidio fi cyn bo fi'n gadael. Wy'n credu bod ganddi "broblemau".
Ta beth, wy'n eitha' lico mynd yna cyn ac ar ol geme cartre Cymru. Mae na awyrgylch dda 'na a ma peint yn rhad. A mae'n eitha da bod tafarn spit'nsawdust fel'na yn gallu para ynghanol y dre.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai