Tafarn gorau Cymru?

Gwell cwrw Cymru na llaeth Lloegr?

Cymedrolwr: Jeni Wine

Rheolau’r seiat
Lle i drafod pob dim sy'n ymwneud â Bwyd a Diod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys » Maw 13 Gor 2004 3:57 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Ymwelwch â Regulars Reunited


Gwych o wefan! Ond s'dim aelodau ar gyfer yr Ivor Arms na'r Tredegar Junction, a dyw'r Bird in Hand (un o dafarndai lleiaf Cymru, siworli) ddim hyd yn oed 'na... :(



Wedi ceisio mynd i'r Bird in Hand sawl tro yn ystod y dydd, yn bennaf i'w cymeradwyo am eu harwydd 'Croeso i'r Aderyn', ond nid yw'n ymddangos ei fod ar agor tan y nos, er daeth glamp o Dalmation mawr cyfeillgar i'r golwg o rywle.

Geraint a ddywedodd:Ond di bod i'r Park Vaults unwaith efo Rhys. Mi wnath hen foi mynu dewis un o fy nghaneuon ar y jiwc bocs (dewisodd o Daydream Believer), a triodd hen fenyw cael mi i ddawnsio i rhyw gan ska :? Ond lle da.


Mae'n amhosib ymweld â'r dafarn yma heb gwrdd a rhywun sydd braidd yn 'wahanol'. Anwybyddwch dafarndai plastic diflas canol y dref (oni bai am y Bwch) a gwariwch pob awr sbar sydd gyda chi yn yfed chwerw a seidr cryfion y Park Vaults :) Wnewch chi byth ddyfaru :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dethin » Maw 13 Gor 2004 5:12 pm

Lletwad Manaw a ddywedodd:Clive Arms!!!!!! Am dwll os weles i dwll erioed!!!! Un or llefydd tafarndai mwya anghroesawgar dwi wedi bod ynddo erioed. yn enwedig pam ma stop tap yn dod tua 10.15!!!! :drwg:


Mae'r Clive Arms yn lle ddoniol gan bod e llawn o Chavs, a gweld nhw'n canu karaoke pob nos wener yn hilariws. Yr un pobl yn canu'r un ganeuon trwy'r amser. :? :?
Hey, wha' happened?
Rhithffurf defnyddiwr
Dethin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 318
Ymunwyd: Llun 12 Ebr 2004 12:43 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Maw 13 Gor 2004 5:45 pm

Un arall am y Park Vaults. Fe ges i ffrae ofnadwy gyda hen ffrind yno unwaith, ac oedd pawb wrth eu boddau bychain. Cwrw neis hefyd.

Y Crofts oedd fy local i pan o'n i yn y brifddinas, a chyn hynny'r New Ely (bues i'n byw drws nesa i gaffi Ramons - golygfa hyfryd o ffenest y lolfa). Tut a Shive yn dda, ond well ers talwm, wrth gwrs.

Pan o'n i'n byw yn y gogledd, o'n i'n yfed ym mhob tafarn yn y Waun, ond mae bob un yn erchyll nawr (debyg eu bod nhw ar y pryd, o'n i'n llai fysi pan o'n i'n 17). Yn Llangollen o'n ni'n mynd i'r Jenny Jones, y Wynnstay, a wnes ymlaen y Sun (ddim yn siwr am hyn, yr un ar y ffordd ma's o'r dre i gyfeiriad y Waun).

Rhai eraill dw i'n lico yn yr ardal yw'r Cross Keys, Selatyn (bosib bod hyn dros y ffin), yr Aquaduct, Froncysyllte a'r Trap, Chirk Bank (sydd yn bendant dros y ffin, ond dyw e ddim yn cyfri os wyt ti'n gallu cerdded adre).
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 13 Gor 2004 7:52 pm

Meiji Tomimoto a ddywedodd:Hotel Llyn Gwernen - wrth droed cadar idris - ish Wedi cau bellach (dwi'n meddwl)
ond peint haeddiannol 'dir un gora bob tro.
(cofio cael peint o siandi yna'n tua 10 mlwydd oed a teimlo'n reit ryfadd wedyn)

Nac ydi wir, wedi ail agor dan reolaeth newydd a ma fod yn dafarn dda rwan (yn hytrach na jest sbot gwych, sori, ond oedd y cwrw a'r gwasaneth yn gachu rwtsh).

Yn ol Dad ma nhw'n gneud bwyd go dda yna rwan fyd a cwrw neis, ond dwi'n meddwl bod y tylluanod, y cudull a'r fferats wedi mynd...bwww!

Biti na fasa ti'n gallu gweld allan dros Lyn Gwernan, ma'n nhw angen torri ar y coed ryw chydig.

Park Vaults

Un o'r llefydd na dwi'm yn mynd yn amal iawn ond pan dwi yna dwi'n cael amser gwych a chyfarfod pobol difyr/dwi heb weld ers oes.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint Edwards » Maw 13 Gor 2004 8:33 pm

Lle diddorol, y Park Vaults yng Nghaerdydd. Er i mi gael fy ngalw yn dickhead gan ryw hen ddynas yna un tro! :rolio:

Er, dwi'n siwr o fynd yna eto. Mae yna fwy o awyrgylch a chymeriad i'r Park Vaults 'na sydd gan y rhan fwyaf o dafarndai canol Caerdydd y dyddiau hyn. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Gowpi » Mer 14 Gor 2004 8:16 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Hotel Llyn Gwernen - wrth droed cadar idris - ish Wedi cau bellach (dwi'n meddwl)
ond peint haeddiannol 'dir un gora bob tro.
(cofio cael peint o siandi yna'n tua 10 mlwydd oed a teimlo'n reit ryfadd wedyn)

Nac ydi wir, wedi ail agor dan reolaeth newydd a ma fod yn dafarn dda rwan (yn hytrach na jest sbot gwych, sori, ond oedd y cwrw a'r gwasaneth yn gachu rwtsh).

Yn ol Dad ma nhw'n gneud bwyd go dda yna rwan fyd a cwrw neis, ond dwi'n meddwl bod y tylluanod, y cudull a'r fferats wedi mynd...bwww!


Odd y ddau foi hoyw odd yn rhedeg y lle gyda cyn wraig un o'r ddau (!!) gyda'r holl gwn ayb yn gret. Nawr ma'r twats wedi dod mewn. Dau Sais odd tu ol y bar pan es i 'na ddwetha', odd hi'n wyl y banc a un yn cwyno bod y chef wedi mynd i gysgu achos bod dim tato ar ol achos eu bod wedi bod yn rhy fishi, a'r llall yn cerdded rownd yn hanner pisd a ddim yn bod yn ddoniol tra'n trial neud jocs. :drwg:
Odd criw o Wyddelod yno newydd fod yn seiclo - pwy fath o argraff o Gymru ma'r twristiaid yn ei gael, pan ma' twats ffroen uchel acen de ddwyrain Lloeger sy'n eu syrfo, a hynny wrth droed Cadair Idris? :drwg: :drwg:
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Y Celt Cymraeg » Maw 03 Hyd 2006 8:51 pm

Stables Bar Betws y coed! Neu unrhyw dafarn sy n gwerthu Hoegaarden ar tap!!!
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Dili Minllyn » Llun 04 Meh 2007 3:54 pm

Newydd ddarganfod y Greyhound Inn, Llanrhidian, Penrhyn Gŵyr. Lle braf iawn ar gyfer bwyd a chwrw o safon. Amrywiaeth o bobl o bob oedran, a chroeso cynnes i blant. Mae Castell Weble, gerllaw, werth ei weld hefyd, gyda golygfeydd gwych dros y corstiroedd a'r môr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nôl

Dychwelyd i Bwyd a Diod

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron