Fel hen stejar, dwi di gweld fy 'fair share' o Steddfodau, ond un peth dwi byth di gallu 'hoelio' ydy'r ateb i'r cwestiwn oesol "Pa ddiod ddylwn i yfed yn y Steddfod?"
O be mae 'nghof yn cofio, dwi di bod trwy'r canlynol:
Vodka a Lucozade (Steddfod Llanelwedd - lethal, ond yn cadw ti fyny trwy'r wythnos)
Sherry (Steddfod Castell Nedd - gwych, ond nes i ddechrau troi mewn i Dave Datblygu erbyn y dydd mercher)
Cwrw (Steddfod Llandeilo - da ar gyfer all dayers, ond yn ffycio gyts chi fyny)
Popeth dan haul (Steddfod Penybont - endio fyny yn neud carioci efo Mam y Mwnci bob dydd)
Jack Daniels (Steddfod Llanelli - ddim yn cofio lot am hwn, ond dwi yn cofio rhedeg rownd lot fel plentyn bach drwg)
Gwin Coch (Steddfod Meifod - meddwl bod fi'n gallu handlo bocs o win bob dydd. Wel, doni ddim)
Felly, gyd-faeswyr, be ddylwn i fod yn yfed eleni? A beth fydd eich 'tipple' chi tybed?