Tudalen 1 o 7

Bîars alternatuf

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:01 pm
gan Rhydfryd II
Oes gan rywun ffansi at y cwrw ma sy'm ar gael yn eich afyrij bar? Er enghraifft poteli Corona yn Weatherspoons, neu Cobra sydd ar gael mewn bwytai Indian ayyb.
Yn gyffredinol dwin ffan, er eu bod nhw'n gallu bod yn ddrud weithia.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:10 pm
gan GringoOrinjo
corona yn lyfli. A sdwff o'r Czech Republic yn gyffredinol, im yn cofio be di'r enwa.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:22 pm
gan Hogyn o Rachub
Coors yw fy hoff gwrw ar y funud, a fydda i'n yfad o cyn unrhywbeth arall 'tawn i'n gyfoethocach, dim ond un lle yng Nghaerdydd (Gassy Jacks yng Nghatays) sy'n gwerthu fo off tap dw i'n gwbod am. Piti 'fyd, cos mae o'n blydi ddrud.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:27 pm
gan garynysmon
Mae Corona yn class, yn enwedig efo Lemon yn nhop y botel. Ond Red Stripe ydi fy ffefryn, lager o Jamaica. Dwi'n gaeth i'r sdwff ers Wakestock!. Ddim yn rhy keen ar Cobra.

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:38 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae'r Copa yng Nghaerdydd (Glassworks/Newt gynt) yn gwerthu llwyth o gwrw 'alternatuf' gwych, ond am brisiau cachu (hanner am bris peint, mwy neu lai). Pethe fel De Koninck, Erdinger, Leffe Blonde a Thywyll. Ffandabihyfryd.

Ond PLIS, galwch y lle yn Copa, hynny yw copa'r mynydd, ac nid Copa, hynny yw Copa Cobana. Mae 'na ymgyrch ar waith!

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:43 pm
gan Hogyn o Rachub
GringoOrinjo a ddywedodd:corona yn lyfli. A sdwff o'r Czech Republic yn gyffredinol, im yn cofio be di'r enwa.


Mm, mi geshi ryw gwrw Tsiec nos Wener, Stamopravin neu rhywbeth. Neis iawn, efo cic da iddo fo!

I ffwrdd o'r tafarndai, gyda llaw, mae 'na lwyth o gwrw Alamaeig a ballu yn Lidl. Bergadler Pils di'r neisia dw i 'di drio - chwech botal peint am llai na phumpunt; nefoedd y myfyriwr!

PostioPostiwyd: Sul 07 Tach 2004 7:50 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mm, mi geshi ryw gwrw Tsiec nos Wener, Stamopravin neu rhywbeth. Neis iawn, efo cic da iddo fo!


Staropramen, mwls! La bière de choix yn Clwb... :winc: Ac on tap yn Tut 'n' Shive.

Pilsner Urquell yn wych o ran cwrw'r Weriniaeth Tsiec hefyd. Mae hwnna ar gael ar wasgar yn fwyfwy dyddie 'ma. A Budvar yw'r brenin wrth gwrs.

Ond fy hoff gwrw ar y foment, o'r Almaen, mae Weihenstephaner. Ydw i bach rhy obsessed gyda chwrw? :?

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 1:20 am
gan Hogyn o Rachub
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ydw i bach rhy obsessed gyda chwrw? :?


Ydi hynny'n bosib? :?

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 1:35 am
gan tafod_bach
be di enw'r un efo hamster ar ffrynt y botel? a dwi di gwglo am 'hamster beer', dodd y canlyniada ddim yn brilliant. mmm.

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2004 10:05 am
gan Llefenni
Rhais deud bod cwrw Carreg yn ly-y-y-fli - hopllyd iawn a llawn blas. Dim yn baiasd - mae o'n flasus ar y naw. :D
Delwedd

Da, de? 8)